Ysgoloriaeth Abertawe - Ysgol Siavonga yn cynnig cyfleoedd i blant yn Affrica gael addysg

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ar y dydd y mae Abertawe'n dathlu bod yn Brifddinas Hawliau Plant y DU, mae'r Tîm Gwirfoddoli Myfyrwyr Discovery, o Brifysgol Abertawe, wedi rhyddhau fideo newydd i hyrwyddo ei gynllun Ysgoloriaeth Partneriaeth Abertawe - Ysgol Siavonga

Mae partneriaeth Abertawe - Siavonga yn ymroddedig, fel rhan o'i gwaith, i hyrwyddo addysg pobl ifanc yn Siavonga, Zambia. Ffordd gadarnhaol o wneud hyn yw drwy'r cynllun ysgoloriaeth ysgol sydd newydd ei lansio, sy'n rhoi cyfle i'r bobl ifanc hynny sydd â'r potensial i gyrraedd safon uchel yn eu haddysg i aros yn yr ysgol ac yn y pen draw fynd ymlaen i golegau a phrifysgolion a chael swyddi da yn y dyfodol.

Siavonga scholarship scheme2

Cafodd y cynllun ysgoloriaeth ei lansio ym mis Chwefror eleni gyda'r nod o gefnogi addysg plant amddifad fydd yn eu galluogi i gyflawni eu potensial a chynhyrchu incwm fydd yn cynnal eu teuluoedd.  Wrth lansio'r cynllun, cyflwynodd Ysgol Pentrehafod, Abertawe siec i gefnogi'r plant yn Ysgol Matuawa am 2 flynedd; mae'r ysgol yn rhan o Raglen Cysylltu Ysgolion Abertawe - Siavonga.

 

 

Rydym yn ymddiried y gwaith o ddethol y plant fydd yn derbyn ysgoloriaeth i'n partneriaid yn Siavonga, ond mae'r Bartneriaeth yn gofyn am ddefnyddio rhai meini prawf wrth ddethol. Dyma rai enghreifftiau:

  •  bod y plentyn yn gwbl amddifad neu'n ferch i fam weddw a bod y fam yn fodlon derbyn ysgoloriaeth ar y telerau a'r amodau a sefydlwyd gan y Bartneriaeth;
  • bod y plentyn yn oedran mynd i'r ysgol, a'i ymddygiad yn dda ac yn dangos diddordeb a gallu os yw eisoes mewn ysgol. Dylai'r athrawon a phennaeth yr ysgol gadarnhau y bydd y gefnogaeth ariannol o fudd ac na fyddai'n cael ei gwastraffu pe byddai'n cael ei defnyddio gyda'r plentyn dan sylw;
  • y dylai cefnogaeth gael ei darparu ar sail angen, heb roi sylw i grefydd na rhyw.

Mae ein Hysgoloriaeth yn cynnwys darpariaeth ar gyfer yr eitemau canlynol:

  • ffioedd ysgol, yn cynnwys unrhyw ffioedd eithriadol;
  • Llyfrau ysgol
  • Nwyddau traul, yn cynnwys papur swyddfa, pennau ac ati; dillad ysgol, cotiau, siwmperi ac esgidiau;
  • Bag ysgol neu ysgrepan;
  • Teithiau ysgol arbennig neu ddigwyddiadau eraill sy'n cael eu trefnu gan yr ysgol.

Mae cefnogi addysg plant yn bwysig er mwyn iddynt allu cyflawni eu potensial yn llawn drwy gael mynd i ysgolion uwchradd da yn eu cymunedau a mynd ymlaen i Brifysgol neu addysg arall lle mae hynny'n bosibl. Gallwch wneud gwahaniaeth i blentyn heb dad neu i blentyn amddifad yn Affrica.

  • Bydd £20 y mis am flwyddyn yn darparu addysg ysgol, eitemau ysgol a digon am un pryd o fwyd y dydd i'r plentyn dan sylw.
  • Bydd £25 y mis yn helpu i dalu ffioedd Prifysgol a chostau byw ar gyfer myfyriwr.
  • Bydd £30 y mis yn cynnal athro mewn ysgol gymunedol.

Siavonga scholarship scheme 1

Mae Cynllun Ysgoloriaeth Partneriaeth Abertawe - Siavonga yn ffurfio rhan o'r rhaglen Haf sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr dreulio haf yn Zambia yn gweithio ar y bartneriaeth ac yn helpu i ffurfio perthnasoedd ar draws diwylliannau.  

Gallwch fynd at y fideo hyrwyddo newydd drwy ddilyn y ddolen: http://www.youtube.com/watch?v=6LMbfw-9T4k