Y Ganolfan ar gyfer Astudiaeth Gymharol Cyfandiroedd America (CECSAM)

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Siaradwr: Dr Geraldine Lublin

Teitl y Ddarlith: ‘Wales discovers Patagonia, and Argentina discovers the Welsh: Reassessing Gŵyl y Glaniad, the Festival of the Landing’

Dyddiad: Dydd Iau 18 Ebrill 2013

Amser: 4.00 pm

Lleoliad: Ystafell Gynadledda (B03), Llawr Isaf, Adeilad Callaghan, Prifysgol Abertawe

Mynediad: Mynediad am ddim a chroeso i bawb

Gwybodaeth am y siaradwr:

Darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Astudiaethau Sbaeneg yw Geraldine Lublin. Hunaniaeth Patagonia yw ei phrif faes ymchwil, gan ganolbwyntio ar hunaniaeth Patagonia a safiad ‘arbennig’ y gymuned Gymreig yn Chubut mewn perthynas â’r rhanbarth a gweddill yr Ariannin.

Mae ei diddordebau ymchwil ehangach yn gysylltiedig â hunaniaethau America Ladin, grwpiau diasporig a phrosesau adeiladu naratifau rhanbarthol, cenedlaethol a gwladol. Mae hi hefyd yn ymroddedig i ddatblygu ac ehangu darpariaeth gyfrwng Cymraeg ym maes Astudiaethau Sbaeneg trwy rwydwaith y Coleg Cymraeg.

Crynodeb o’r ddarlith:

Coffadwriaeth cyrhaeddiad mintai gyntaf y Cymry i Batagonia ar 28 Gorffennaf 1865 yw Gŵyl y Glaniad, digwyddiad nodweddiadol Cymreig-Batagonaidd. Fe'i deddfwyd yn ŵyl gyhoeddus gyntaf Talaith newydd sbon Chubut ym 1958, ond dathlwyd hi yn ardaloedd Cymreig Chubut ers dyddiau cynnar y sefydliad. Dathlir yr ŵyl heddiw ar draws Chubut, ond mae ei natur a'i chyd-destun wedi newid yn aruthrol dros y blynyddoedd. Bydd y cyflwyniad hwn yn trafod gwahanol ddehongliadau'r digwyddiad coffa ac yn ailasesu ei arwyddocâd presennol.

Cyswllt: I archebu lle neu am ragor o wybodaeth e-bostiwch: r.s.perez-tattam@abertawe.ac.uk