Y DNA o feddwl: prosiect archifau'n cipio dwy wobr i Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae dau brosiect a fu'n cynnwys ymchwil yn Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe wedi ennill gwobrau yn y gystadleuaeth Dywedwch eich Stori Wrthym, a drefnir gan Archifau Cymru. Roedd rhaid i ymgeiswyr ddisgrifio eu profiad gan ddefnyddio archifau, ac esbonio sut y gwnaeth hyn eu helpu gyda'u prosiect.

Ymwelodd Christian Erbacher o Brifysgol Bergen yn Norwy ag Archifau Richard Burton i ddefnyddio'r casgliad Rush Rhees. Roedd Rhees yn athronydd, a oedd yn adnabyddus yn bennaf fel myfyriwr, ffrind ac ysgutor llenyddol yr athronydd Wittgenstein. Bu Rhees yn addysgu athroniaeth ym Mhrifysgol Abertawe o 1940 tan 1966.

Meddai Christian: "Rydw i wedi teithio mil o filltiroedd i gyrraedd Archifau Richard Burton, ac roedd hi'n werth yr ymdrech. Bob tro y bu i mi agor ffolder newydd roedd hi fel petawn i'n gosod troed ar dir newydd. Rydw i'n archwilio'r trywydd meddwl hwn ac yn ceisio rhoi syniad i'm darllenwyr o'r hyn yr wyf wedi'i brofi. Wrth sôn am bob cymal o'r daith mae syniadau'r athronydd yn byw unwaith eto ac yn cael eu trosglwyddo i eraill. Dyma pam mae archifau'n perthyn i'r DNA o feddwl."

Mae Siôn Durham yn fyfyriwr hanes israddedig ym Mhrifysgol Abertawe. Bu'n defnyddio'r archifau yn ei ail flwyddyn ar gyfer cwrs newydd. 'Ymchwilio ac Ailddweud y Gorffennol: Prosiect Hanes Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe'. Roedd y prosiect hwn yn addysgu myfyrwyr yn gyfan gwbl drwy ddefnyddio deunydd archif.

Gwyliwch Siôn yn dangos ei waith ar hanes Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe.

Dywedodd Siôn fod gan Brifysgol Abertawe "ei hanes unigryw ei hun", a bu modd iddo archwilio hanes Undeb y Myfyrwyr drwy ffynonellau di-rif yn yr archif, gan gynnwys papurau newydd myfyrwyr, cofnodion cyfarfodydd a ffotograffau. "Yr hyn sy'n gwneud archif yw'r bobl sy'n rhedeg y gwasanaethau hyn", meddai, gan ddisgrifio Archifau Richard Burton fel "lle eithriadol i fynd i wneud gwaith ymchwil".