Urddo Darlithydd y Brifysgol wrth Ddathlu Dyfodiad yr Eisteddfod

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Heidiodd cannoedd i Gaerfyrddin ddydd Sadwrn i ddathlu dyfodiad yr Eisteddfod Genedlaethol i’r sir ac i weld Dr Christine James yn cael ei hurddo’n Archdderwydd Cymru.

‌Bydd Dr Christine James, Athro Cyswllt yn y Gymraeg yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe yn gyfrifol am yr Orsedd a’i seremonïau am y tair blynedd nesaf.

Christine James

Bu Gorsedd y Beirdd yn gorymdeithio drwy’r dref cyn cynnal y Seremoni Gyhoeddi ym mharc y dref ac fe gyhoeddwyd Rhestr Testunau Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014 am y tro cyntaf. 

Derbyniwyd Dr Christine James i’r Orsedd yn 2002, ac mae’n aelod o Fwrdd yr Orsedd ers 2010. Hi yw’r fenyw yn ogystal â’r ddysgwraig gyntaf i ddal y swydd arbennig hon.

Fe’i ganwyd yn Nhonypandy, Cwm Rhondda, a’i magu ar aelwyd uniaith Saesneg. Dysgodd y Gymraeg fel ail-iaith yn Ysgol Ramadeg y Merched, Y Porth, cyn mynd ymlaen i astudio’r Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.

Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau 2005, am ei chasgliad o gerddi, Llinellau Lliw, a ysbrydolwyd gan rai o weithiau celf mwyaf adnabyddus Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Ychwanegodd Dr Christine James: ”Rwy’n ymwybodol iawn o’r fraint sydd wedi cael ei hestyn i mi’n bersonol wrth fy ngorseddu’n Archdderwydd Cymru, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gael gwneud popeth o fewn fy ngallu i hyrwyddo buddiannau’r iaith Gymraeg, yr Eisteddfod a’r Orsedd dros y tair blynedd nesaf.”

Ychwanegodd yr Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: ‘‘Hoffwn longyfarch Christine yn wresog ar ei hanrhydedd a dymuno’r gorau iddi dros y tair blynedd nesaf. Braf oedd gweld aelod o’r Brifysgol yn creu hanes trwy gael ei hethol yn Archdderwydd benywaidd cyntaf Cymru. Rydym yn falch iawn ohoni ac edrychwn ymlaen at ei gweld yn arwain yr Orsedd eleni yn ogystal â phan ddaw’r Ŵyl i Lanelli mae o law.’’

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr ar y Meysydd Gŵyl, Parc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli, o 1-9 Awst y flwyddyn nesaf.  Am fwy o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.org.uk

Llun: Eisteddfod Genedlaethol Cymru