Tŷ agored yng Ngweithfeydd Copr Hafod-Morfa Dydd Sadwrn 14eg Medi 2013

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Dewch i weld y datblygiad yn Ngweithfeydd Copr Hafod-Morfa

Mae Gweithfeydd Copr Hafod-Morfa yn falch o fod yn rhan o benwythnos Tŷ Agored Abertawe ar 14eg Medi am y tro cyntaf.

Byddwn yn cynnal dau weithgaredd.

Cynhelir Teithiau Tywys ar Droed o'r safle am 11am, 1pm, 3pm a 5pm a byddant yn canolbwyntio ar hanes y safle. Bydd modd i chi gael gwybod am y gwaith presennol a chynlluniau ar gyfer y dyfodol. Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael felly archebwch drwy e-bostio s.m.griffin@abertawe.ac.uk.

Helfa Sborion Hwyl i'r Teulu o 1-3pm. Galwch heibio unrhyw bryd rhwng yr amseroedd hyn. Mae'r digwyddiad wedi'i fwriadu ar gyfer plant o bob oedran a'u teuluoedd. Bydd gan y digwyddiad flas archeolegol a bydd teuluoedd yn casglu lluniau ac yn adnabod adeiladau a nodweddion ar fapiau yn hytrach na chwilio am wrthrychau go iawn. Bydd yr holl deuluoedd yn cael eu henw yn yr het am raffl i ennill tocyn am bryd bwyd i'r teulu yn Frankie and Bennie’s. Mae'r digwyddiad hwn wedi'i gydlynu gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg Gwent (GGAT).

Mae'r digwyddiadau'n darparu cyfle i fwynhau'r safle hynod a dymunol hwn sydd wedi newid yn fawr ac i gymryd rhan fwy blaenllaw os hoffech. Edrychwn ymlaen at eich gweld yno!

Byddwn hefyd yn ddiolchgar pe byddai modd i chi helpu hyrwyddo'r digwyddiad hwn i'ch ffrindiau a'ch teulu.

Os ydych yn fodlon ac yn gallu helpu ar y dydd, mae croeso mawr i chi gysylltu hefyd.

Ceir gwybodaeth bellach yn: http://www.swanseaopenhouse.com/venues/HafodCopperwks.html