Prifysgol Abertawe yn mynd yn erbyn y llif

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe ar y trywydd iawn i ennill mwy o bwyntiau nag erioed o'r blaen ym mhencampwriaethau 2012/13 Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS).

Mae hyn yn newyddion calonogol i'r timoedd wrth iddynt ddwyshau eu hyfforddi ar gyfer yr her flynyddol maent yn ei hwynebu'n fuan, sef Tarian Prifysgolion Cymru.

Sefydlwyd BUCS yn 2008 trwy gyfuno Cymdeithas Chwaraeon Prifysgolion Prydain a Chwaraeon Colegau a Phrifysgolion. Mae BUCS yn cynnal 50 o chwaraeon gwahanol (popeth o saethyddiaeth i ffrisbi eithafol) ar gyfer ymron i 170 o sefydliadau (gan gynnwys rhai Colegau Addysg Bellach bellach).  Mae hyn yn cynnwys rhaglen cynghrair brysur gyda thros 4500 o dimoedd a thros 100 o gystadlaethau pencampwriaeth bob blwyddyn.

Ar hyn o bryd, mae Abertawe yn y 21ain lle yn y tabl, diolch i berfformiadau gwych gan lawer o dimoedd chwaraeon y Brifysgol.  Ar ddiwedd 2012, roedd tîm cyntaf hoci'r menywod heb golli gêm yn y gynghrair neu'r cwpan, ac roedd tîm cyntaf badminton y dynion ddau bwynt yn glir o'r ail sefydliad, Caerwysg, ar ben cynghrair 2B y Gorllewin.  Dylid crybwyll, gyda chlod, timoedd cyntaf y menywod yng Nghleddyfaeth, Pêl Foli, a Phêl-rwyd, yn ogystal â thimoedd canlynol y dynion: 3ydd tîm Hoci, Tîm 1af Cleddyfaeth, a Tîm 1af Sboncen.

Mae Imogen Stanley, y Swyddog Chwaraeon, yn falch iawn o gynnydd chwaraeon y Brifysgol, ac yn awgrymu nad oes rhwystr i welliant pellach. "Ein safle ar ddiwedd y tymor y llynedd, sef 25ain, oedd y gorau erioed i'r Brifysgol, ac rydym ar y trywydd iawn i wella ar hynny eto eleni.  Ymddengys fod y Brifysgol yn cymryd chwaraeon mwy o ddifrif bellach, ac yn cydnabod eu pwysigrwydd i fyfyrwyr, ac ar gyfer marchnata a hyrwyddo, gan ddefnyddio'n cysylltiadau â Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe, y Gweilch, a Harriers Abertawe. Yn ddi-os, mae gyda ni uchelgais mawr am y ddwy flynedd nesaf, yn arwain at ein canmlwyddiant yn 2020."

Mae'r naid i fyny'r gynghrair yn dod ar adeg bwysig yn seicolegol, gyda chystadleuaeth Tarian Prifysgolion Cymru ar y gorwel. Cynhelir yr ornest flynyddol rhwng Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd yn wythnos olaf mis Ebrill. Cynhelir dros 25 o ddigwyddiadau dros wythnos, a chynhelir gêm rygbi'r Farsity yn anterth i'r chwaraeon yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd, ddydd Mercher 24 Ebrill.  Aeth dros 14,500 o bobl i weld gêm y llynedd. Am fanylion y diwrnod a'r hyn sy'n digwydd, ewch i http://www.welshvarsity.com.

Cynhwysir chwaraeon eraill yn y gemau hefyd, gan gynnwys hoci, sboncen, badminton, lacrós, rhwyfo, golff, pêl-fasged, pêl-droed, pêl-rwyd, cleddyfaeth, ac ystod o chwaraeon eraill gan gynnwys crefft ymladd. Mae'n ddigwyddiad codi arian, ac aiff yr elw at nifer o achosion da.