Prifysgol Abertawe'n cipio'r wobr gyntaf yng ngwobrau gwyrdd y prifysgolion

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd y safon ac wedi derbyn dyfarniad 'gradd' Dosbarth Cyntaf anhygoel am ei pherfformiad amgylcheddol yn nhablau cynghrair prifysgolion mwyaf gwyrdd y DU a gyhoeddwyd heddiw.

Green league First 2013 badge

Mae esgyn o ddyfarniad "Methu" i ddyfarniad Dosbarth Cyntaf mewn dwy flynedd yn unig yn glodwiw yn ôl safonau unrhyw un. Gyda sgôr o 42.5 allan o 70 mae Prifysgol Abertawe wedi codi i'r 39ain safle o'r 70ain yn y tabl cynghrair o blith 143 o brifysgolion eleni, ar ôl methu â sgorio'r flwyddyn flaenorol.  

 

Meddai'r Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor Rhyngwladoli, sy'n gyfrifol hefyd am Reoli Ystadau: "Rydym wrth ein boddau gyda'r cynnydd cyflym yn ein safle yn nhabl y Gynghrair Werdd ac rydym yn edrych ymlaen at gael ein cydnabod am ein gwaith yn y maes hwn yn y dyfodol. Mae ein staff a'n myfyrwyr gwych wedi codi'r safon wrth helpu'r Brifysgol i wella ei pherfformiad yn y maes hwn, a gallwn ddiolch iddyn nhw i gyd am allu ymfalchïo yn ein statws cynghrair newydd.

Sgoriodd y brifysgol farciau llawn yn yr adran Bwyd Cynaliadwy - ein Hadran Arlwyo yw un o'r cyntaf yn y DU i ennill Gwobr Efydd Bwyd am Fywyd Cymdeithas y Pridd. Mae'r Brifysgol hefyd wedi gwneud cynnydd mawr o ran gwella rheolaeth garbon ac ynni adnewyddadwy.

Mae Cynghrair Werdd People and Planet yn rhoi dyfarniadau dull gradd i Brifysgolion y DU yn seiliedig ar eu perfformiad amgylcheddol a rheoli moesegol. Mae sefydliadau addysgol yn gosod eu eco-gymwyseddau yn erbyn ei gilydd ac mae'r gystadleuaeth yn galed gan fod myfyrwyr am i'w prifysgolion fod yn sefydliadau cynaliadwy.

Dywedodd Dr Heidi Smith, Rheolwr Cynaliadwyedd y Brifysgol: "Mae Prifysgol Abertawe wrth ei bodd â'i safle uwch yn y Gynghrair Werdd eleni. Roedd hyn yn ganlyniad i waith allweddol a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn gan gynnwys cyhoeddi'r Cynllun Rheoli Carbon, cyflwyno'r Strategaeth Gynaliadwyedd newydd, cynllun llogi beiciau am ddim Beiciau'r Bae, y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth a'r llwybr natur ar y campws, yn ogystal ag ystod o brosiectau ymgysylltu eraill i staff a myfyrwyr.

"Er bod hyn yn dangos cynnydd ardderchog, rydym yn cydnabod bod llawer y gallwn ei wneud o hyd i wella perfformiad amgylcheddol y Brifysgol ymhellach. Fel prifysgol ymchwil ddwys, mae lleihau ein defnydd o adnoddau naturiol yn mynd i fod yn anodd o'i gymharu â rhai sefydliadau eraill; fodd bynnag, rydym yn benderfynol o fod mor effeithlon ag y gallwn trwy ymgysylltu â staff a myfyrwyr."

Y Gynghrair Werdd yw'r unig dabl sy'n graddio holl brifysgolion y DU yn ôl perfformiad amgylcheddol a moesegol. Mae wedi'i seilio ar wybodaeth a gyflwynir i brifysgolion gan People & Planet, y rhwydwaith myfyrwyr mwyaf ym Mhrydain sy'n ymgyrchu i ddod a diwedd i dlodi yn y byd, i amddiffyn hawliau dynol ac i ddiogelu'r amgylchedd. Mae rhwydwaith People & Planet yn cynnwys grwpiau mewn prifysgolion, colegau ac ysgolion, yn ogystal â nifer o gefnogwyr unigol eraill.

Gellir dod o hyd i ddata'r Gynghrair Werdd yn llawn yn: http://peopleandplanet.org/greenleague