Penodi Athro Prifysgol Abertawe i academi'r gwyddorau cymdeithasol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'r Athro Heaven Crawley, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Polisi Ymfudo Prifysgol Abertawe, wedi'i phenodi'n Aelod o Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol, ar ôl cael ei henwebu gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gyda Sefydliad Daearyddwyr Prydain).

Heaven Crawley Academician

Enwebwyd yr Athro Crawley am ei chyfraniad sylweddol i'r gwyddorau cymdeithasol o ran deall profiad ymfudwyr, ei rhestr sylweddol o gyhoeddiadau gan gynnwys monograffau, papurau academaidd, papurau polisi ac adroddiadau, cyhoeddiadau'r Llywodraeth a'r Senedd gan gynnwys adroddiadau gan y Pwyllgor Materion Cartref (2006) a'r Cydbwyllgor ar Hawliau Dynol (2007), a'i chyfraniadau sylweddol ac adnabyddus i bolisi ac i drafodaethau cyhoeddus ac yn y cyfryngau ar faterion yn ymwneud ag ymfudo.   

Wrth groesawu'r Aelodau newydd, dywedodd yr Athro Cary Cooper, Cadeirydd Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol, "Mae mor bwysig bod gan y gwyddorau cymdeithasol lais cryf a chynhwysfawr i gynrychioli eu gwaith allweddol."

Mae gwaith cyfredol yr Athro Crawley'n canolbwyntio'n bennaf ar sut mae plant ffoaduriaid a'r rhai sy'n ceisio lloches yn cael eu trin. Mae wrthi ar hyn o bryd yn gwerthuso gwarcheidwaeth plant sydd wedi'u gwahanu yn yr Alban, ac mae'n gweithio gyda Chyngor Ewrop ar asesiad fesul oedran o blant wedi'u gwahanu sy'n ceisio lloches yn y Wcráin. Yn ddiweddar, mae'r Athro Crawley wedi'i phenodi'n ymgynghorydd arbennig i ymchwiliad gan Gydbwyllgor Hawliau Dynol y Senedd. Mae'r Pwyllgor, a gadeirir gan Hywel Francis AS, wedi lansio ymchwiliad i hawliau dynol plant a phobl ifanc yn y DU sydd wedi ymfudo heb oedolion, gan ganolbwyntio'n benodol ar y rhai sy'n ceisio lloches neu sydd wedi dioddef masnachu pobl. Mae'r Pwyllgor yn bwriadu adrodd i'r ddau Dŷ, gydag argymelliadau, erbyn Pasg 2013.