Papur gan wyddonwyr Abertawe yn uchelbwynt ymchwil y cylchgrawn Physics of Plasmas

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Defnyddiwyd papur gan ffisegwyr Prifysgol Abertawe yn 'Uchelbwynt Ymchwil' yn y cylchgrawn ar-lein rhyngwladol Physics of Plasmas.

Ysgrifennwyd y papur, "Manipulation of the magnetron orbit of a positron cloud in a Penning trap", gan Timothy Mortensen, Adam Deller, Dr Aled Isaac, Dr Dirk van der Werf a'r Athro Mike Charlton, o Adran Ffiseg y Brifysgol, yn y Coleg Gwyddoniaeth.

Yn y papur, mae tîm Abertawe yn disgrifio dull syml ac amlbwrpas o ddefnyddio magl Penning i newid a rheoli osgled orbit rhai ionau.  Defnyddiwyd y dechneg ar gwmwl o bositronau egni isel, ond dylai'r dechneg weithio ar unrhyw fath o ronynnau gwefredig mewn magl Penning.