Myfyriwr Bydwreigiaeth yn cefnogi 'Llwyth Drudfawr'

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae myfyriwr Bydwreigiaeth o Brifysgol Abertawe wedi cymryd rhan mewn ymdrech a gododd dros £600 ar gyfer elusen sy'n arbenigo mewn darparu beiciau modur i weithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn ardaloedd anghysbell y byd datblygol.

Maria Nash, sydd yn ail flwyddyn ei chwrs Bydwreigiaeth yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, oedd cydlynydd gwirfoddoli lleol Abertawe ar gyfer Llwyth Drudfawr, prosiect o eiddo elusen yn y Deyrnas Unedig, sef Motorcycle Outreach, a gymeradwyir gan sefydliadau blaenllaw bydwreigiaeth, gan Gymdeithas Banciau Llaeth y Deyrnas Unedig, a chan 'Beiciau Gwaed'.

Mae Llwyth Drudfawr yn ceisio codi £40,000 trwy gludo sgrôl arbennig ar daith feicio ddeufis o hyd o gwmpas Unedau Mamolaeth y Deyrnas Unedig. Cludir y sgrôl o uned i uned gan Feiciau Gwaed, ac mae myfyrwyr bydwreigiaeth yn ei dderbyn ac yn gofalu amdano. Ym mhob uned, anogir myfyrwyr bydwreigiaeth, bydwragedd cymwys, staff eraill, a'r cyhoedd i lofnodi'r sgrôl ac i roi arian. Hefyd, caiff y sgrôl ei addurno gyda lluniau a dynnir gan blant sydd yn gleifion, a bydd yn dwyn negeseuon sy'n esbonio arwyddocad bydwreigiaeth i'r awduron.

Precious cargo

Ymwelodd y sgrôl ag Ysbyty Singleton yn Abertawe ar 7 Hydref, pan oedd Maria yn gofalu amdano. Dywedodd hi: "Fi oedd y myfyriwr bydwreigiaeth oedd yn gydlynydd gwirfoddoli lleol, a bu raid i mi dderbyn y sgrôl oddi wrth yrrwr y Beic Gwaed yn Ysbyty Singleton. Fy nghyfrifoldeb i oedd cadw'r sgrôl yn ddiogel, hysbysu pawb am Lwyth Drudfawr, a chasglu llofnodau a rhoddion. Trefnais arwerthiant teisennau ym mhrif gyntedd Ysbyty Singleton gyda chymorth myfyrwyr bydwreigiaeth eraill, cyfeillion, ac un o'm darlithwyr. Roedd yn llwyddiannus dros ben, a chawsom ein canmol gan drefnydd y digwyddiad am ein gwaith gwych yn Abertawe."

Yn ystod ei gyfnod yn Abertawe, casglwyd dros 500 o lofnodau, a chodwyd cyfanswm o £628.

Ar ôl i'r sgrôl gwblhau ei daith ddeufis o gwmpas y Deyrnas Unedig, gobeithir y bydd yn teithio ar draws Ewrop a'r tu hwnt.

Llun: Maria Nash (ar y dde) a'i chyd-fyfyriwr Ree Saheid (ar y chwith) y tu allan i Ysbyty Singleton, yn pasio'r sgrôl ymlaen i'r gwirfoddolwr o Feiciau Gwaed oedd yn ei gludo i'r ysbyty nesaf.