Mwy o geisiadau UCAS i Brifysgol Abertawe nag erioed o'r blaen

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae nifer y ceisiadau i Brifysgol Abertawe am fynediad ym mis Medi 2013 wedi cynyddu o 25% eleni, y cynnydd mwyaf erioed, ac mae'n dod ar adeg pan mae pobl yn pryderu am y nifer o geisiadau yn genedlaethol.

Mae'r ffigyrau UCAS a gyhoeddwyd i sefydliadau'r wythnos hon yn dangos bod ceisiadau oddi wrth fyfyrwyr 'cartref' ar gyfer gradd israddedig yn y Brifysgol wedi codi o ymron i 25% o gymharu â'r llynedd, ac o 4% o gymharu â'r record a osodwyd yn 2010.

Mae'r cynnydd yn gyflawniad nodedig yn erbyn y cefndir cyffredinol yn y DU, lle cafwyd cynnydd o ddim ond 3.5%, ac yng Nghymru, lle cafwyd cwymp o 2%.

Gyda chynnydd mewn 14 o 15 grwpiau pwnc, mae'r ffigyrau'n cynnwys cynnydd o 17% mewn Ieithoedd, cynnydd o 32% mewn Troseddeg a'r Gyfraith, cynnydd enfawr o 76% mewn Peirianneg, a chynnydd rhyfeddol o 83% mewn Cyfrifiadureg a Mathemateg. 

Meddai'r Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Mae'r ffigyrau hyn yn newyddion da eto i Brifysgol Abertawe. Maen nhw'n dangos bod myfyrwyr yn cydnabod bod Abertawe yn Brifysgol sydd ar i fyny, gyda chyfleusterau ac agwedd sy'n gweddu â chyfleoedd a heriau'r byd cyfoes.  Cawsom fwy o bobl yn ein Diwrnodau Agored nag erioed o'r blaen, gydag ymwelwyr yn dod i weld un o brifysgolion ymchwil mwyaf uchelgeisiol y DU. Gwelodd yr ymwelwyr gymuned sy'n ffynnu ar archwilio a darganfod, ac sy'n cynnig y cydbwysedd iawn rhwng addysgu gwych ac ymchwil, i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.  Gwelon nhw hefyd Brifysgol sy'n rhoi pwyslais mawr ar baratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa lwyddiannus.  Cydnabyddir llawer o'n graddau gan y cyrff proffesiynol priodol, ac mae gan bob myfyriwr fynediad at astudio tramor, lleoliadau gwaith, a dewisiadau cwrs arbenigol.  Mae'r rheini i gyd yn cyfuno i wella cyflogadwyedd ein myfyrwyr.

“Mae'r cynnydd yn nifer y ceisiadau'n cyfiawnhau'r buddsoddiad enfawr mewn ehangu'r campws, ac yn cydnabod y gefnogaeth a gawsom oddi wrth Lywodraeth Cymru.  Erbyn 2015 bydd gan y Brifysgol Gampws Gwyddoniaeth ac Arloesi newydd yn ogystal â Champws Parc Singleton ar ei newydd wedd.  Rydym yn hyderus y byddwn yn gwireddu'n huchelgais i sefydlu Abertawe yn brifysgol ymchwil ymhlith 30 prifysgol orau'r DU erbyn 2017, cyn ein canmlwyddiant yn 2010."

Mae'r ffigyrau'n dweud y cyfan -

  • Mae bodlonrwydd myfyrwyr yn gyffredinol wedi bod ar gynnydd yn gyson, a'r llynedd, cawsom 87%, sy'n uwch na chyfartaledd Cymru a'r DU.
  • Mae dros 90% o'n myfyrwyr eisoes mewn addysg bellach neu swydd o fewn chwe mis ar ôl graddio, a chânt fantais fwy eto trwy'r Academi Cyflogadwyedd sydd wedi'i sefydlu'n ddiweddar, ac a lansiwyd yn 2012.
  • Llwyddodd y Brifysgol i gadw ei lle ymhlith y 500 prifysgol orau yn Nhabl Sêr QS o Brifysgolion y Byd 2012-13. Derbyniodd 4 seren yn gyffredinol (a 5 seren am addysgu) ar gyfer 2013.

Am daith rithwir o gwmpas Prifysgol Abertawe, cliciwch arhttp://www.swan.ac.uk/virtual-tour