Mae gan y myfyriwr Busnes arobryn Peter sgiliau entrepreneuriaeth yn ddiogel 'dan glo'

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Roedd y myfyriwr BSc Rheoli Busnes (Entrepreneuriaeth) o Brifysgol Abertawe Peter Allan, o Newbury, yn rhan o dîm buddugol o bump o fyfyrwyr yng nghystadleuaeth '24 awr dan glo' diweddar Canolfan Arloesi Cymru ar gyfer Entrepreneuriaeth (ICE).

Welsh ICE winnerGwnaeth timoedd gystadlu dros gyfnod di-baid o 24 awr gyda chymorth gan fentoriaid ICE a'u partneriaid busnes cynorthwyol, mewn cystadleuaeth a roddodd diwtora arbenigol i gyfranogwyr, a'u cyflwyno i ffyrdd newydd o feddwl am eu mentrau newydd arfaethedig, yn ogystal â chyfle i gymharu nodiadau gyda chyd-fyfyrwyr. 

Gwnaeth y tîm buddugol, gyda'i myfyrwyr wedi'u lleoli yng Nghymru ac yn Birmingham, brofi bod ganddynt fantais o safbwynt entrepreneuriaeth gyda'u syniadau ar gyfer cymhwysiad symudol newydd yn cynnig rhagor o wybodaeth i wylwyr teledu am y rhaglen y maent yn ei gwylio trwy eu ffônau smart a dyfeisiau eraill, gan ennill £2,500 mewn cyfalaf cychwynnol yn y broses i'w helpu i gychwyn eu syniad busnes.

Ariannwyd y wobr yn rhannol gan y cwmni o San Fransisco Objectivity Inc, yr arweinydd o ran Datrysiadau Cronfa Ddata NoSQL ar gyfer Big Data, sydd newydd lansio cymhwysiad symudol Beta newydd sy'n caniatáu i gwmnïoedd gael cipolwg ar ymddygiad y rhai sy'n defnyddio eu rhwydweithiau cymdeithasol. Rhoddodd y gystadleuaeth gyfle hefyd i gyfranogwyr greu argraff ar ddarpar gyflogwyr yn y broses.

Meddai'r Athro Niall Piercy, Cadeirydd Entrepreneuriaeth Ysgol Fusnes Prifysgol Abertawe: "Rydw i wrth fy modd â llwyddiant Peter yn y gystadleuaeth hon. Mae wedi dangos y fath ysbryd mentergar y mae ein gradd BSc Rheoli Busnes (Entrepreneuriaeth) newydd wedi'i dylunio i'w feithrin a'i ddatblygu, ac mae'r ffaith ei fod wedi cyflawni hyn ar ddechrau ei raglen radd yn rhagorol.

"Mae nifer o'n graddedigion wedi dod o hyd i gryn lwyddiant wrth sefydlu eu busnesau eu hunain, ac rydym yn edrych ymlaen at helpu Peter i ddatblygu a thyfu ei fusnes yn ystod ei gyfnod yn astudio gyda ni."

Meddai Gareth Jones, cyd sefydlydd ICE Cymru: "Roedd y rhai hynny a gymerodd ran yn y gystadleuaeth wedi'u synnu a'u plesio, nid dim ond â'r gefnogaeth a gafodd y digwyddiad gan fyfyrwyr a'r gymuned fusnes fel ei gilydd, ond hefyd gydag ansawdd y syniadau busnes a gododd o'r gystadleuaeth.

"Nawr bydd pawb a gymerodd ran, yn enwedig yr enillwyr, wedi'u cefnogi gan ICE Cymru ym mhob ffordd y gallent i wneud yr holl syniadau busnes gwych hyn yn realiti lle bynnag y bo'n bosib."

Roedd y tîm buddugol yn cynnwys Peter Allan o Brifysgol Abertawe, Carey Wallace a Nia Wyn Rossiter o Brifysgol Caerdydd, Abdiellah Madi o Brifysgol De Cymru, a Tony Kosta o Brifysgol Birmingham.

Am ragor o wybodaeth am Ysgol Fusnes Prifysgol Abertawe ewch i http://www.swansea.ac.uk/business/, ac am ICE Cymru ewch i www.welshice.org.


Llun: Y tîm buddugol ar waith - Carey Wallace a Nia Wyn Rossiter o Brifysgol Caerdydd, Peter Allan o Brifysgol Abertawe, Tony Kosta o Brifysgol Birmingham ac Abdiellah Madi o Brifysgol De Cymru.