Mae diogelu bioamrywiaeth arfordirol yn diogelu ein pysgodfeydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe'n helpu i ddeall pwysigrwydd cynefinoedd arfordirol sensitif, yng Nghymru a'r DU, o safbwynt cefnogi ein pysgodfeydd.

Mae'r ymchwil hon, sy'n defnyddio technoleg fideo stereo newydd, wedi bod yn asesu'r cymunedau o bysgod a'u hamrediad oed mewn gwahanol gynefinoedd o amgylch Cymru. Rhoddir sylw arbennig i geisio deall gwerth caeau morwellt, coedwigoedd gwymon a gwelyau marchfisglod o safbwynt cefnogi pysgod ifanc, yn enwedig y rhywogaethau hynny o bwysigrwydd masnachol.

Cynhaliwyd yr ymchwil hon gan aelodau Grŵp Ymchwil Ecosystemau Morwellt, yn y Coleg Gwyddoniaeth, Prifysgol Abertawe, ac fe'i cynhaliwyd mewn cydweithrediad â SEACAMS, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a'r Sarnau, a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae'r gwaith wedi arwain at greu ffilm fer sydd ar gael yn gyhoeddus ar y rhyngrwyd. Mae'r ffilm ar gael hefyd ar wefan y grŵp (www.seagrass.org.uk/news).

Cynhaliwyd astudiaethau o amgylch arfordir Sir Benfro a Phenrhyn Llŷn a chawsant eu hariannu ar y cyd gan Gronfa Cryfder ac Amrywiaeth Ecosystemau Llywodraeth Cymru a phrosiect SEACAMS a ariannir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Seagrass coastal habitats

Wrth esbonio cefndir yr astudiaeth, meddai arweinydd y prosiect Dr Richard Unsworth: "Yn y DU rydym yn ceisio datblygu rhwydwaith hanfodol bwysig o ardaloedd morol sydd wedi’u diogelu. Mae gwneud penderfyniadau ynglŷn â'u lleoliadau arfaethedig yn union yn golygu gwneud penderfyniadau rhesymol o ran gwerth cymharol gwahanol fathau o gynefinoedd. Oherwydd yr anawsterau a geir wrth samplu nifer o fathau o gynefinoedd heb fod yn ddinistriol, dydyn ni ddim yn gwybod digon am sut y mae cynefinoedd sydd dan fygythiad megis morwellt, gwymon a marchfisglod yn cefnogi pysgod ifanc megis Penfras, Morleisiaid a Gwyniaid môr.

 

Defnyddiodd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe gyfuniad o systemau Fideo Tanddwr Pell ag Abwyd a rhwydi sân traddodiadol i gyfri'r rhywogaethau o bysgod sy'n bresennol mewn morwellt, marchfisglod a gwymon. Dyma'r tri math o gynefin sydd i gyd wedi'u hisraddio a'u haflonyddu dros amser, ac sy'n parhau i fod dan fygythiad yng Nghymru a thrwy gydol y DU."

Seagrass congereel

Esboniodd Dr Unsworth ganlyniadau'r gwaith a gynhaliwyd gan yr holl dîm. Meddai: "Mae ein hastudiaethau wedi darparu tystiolaeth o werth cynefinoedd arfordirol sensitif o safbwynt cefnogi pysgodfeydd sy'n bwysig yn economaidd. Mae ein canlyniadau'n dangos yn glir sut y mae morwellt yn bwysig fel cynefin i bysgod ifanc. Roedd hyn yn arbennig o wir yn achos caeau morwellt a oedd yn cynnwys pysgod ifanc o leiaf 10 rhywogaeth sy'n bwysig yn fasnachol (Penfras, Morleisiaid, Gwyniaid Môr, Draenogiaid y Môr, Mingrwn, Lledod, Chwitlyniaid Gleision, Bib, Lledod Mannog)."

 

Ychwanegodd: "Rydym i gyd ym meddwl yn rhy aml am gadwraeth bioamrywiaeth fel gweithgaredd sy'n gwrthdaro â diwydiant. Ond mae ein hymchwil yn dechrau dangos bod cadwraeth cynefinoedd arfordirol sensitif yn y DU yn ymwneud cymaint â chefnogi'r diwydiant pysgota ag yr ydyw'n ymwneud â diogelu bioamrywiaeth."

Darlun 1: Morwellt (Zostera marina) ym Mhorthdinllaen yng Ngogledd Cymru gydag anemoni cudynnau nadroedd ynghlwm

Darlun 2. Llysywen Bendoll a ddaliwyd mewn cae morwellt ym Mhorthdinllaen (Gogledd Cymru).