Llyfr ar Derfysgaeth yn ennill Gwobr am Waith Academaidd Eithriadol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Dr Lee Jarvis, Uwch-ddarlithydd yn Adran Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol Prifysgol Abertawe, yn un o gyd-awduron llyfr ar Derfysgaeth sydd wedi ennill Gwobr am Waith Academaidd Eithriadol 2012 gan y cylchgrawn 'Choice'.

Mae'r rhestr bwysig hon o lyfrau eithriadol yn cydnabod yr ysgolheictod gorau a mwyaf arwyddocaol o blith y 7000 llyfr a adolygir gan Choice yn ystod y flwyddyn galendr flaenorol.

Mae'r llyfr, Terrorism: A Critical Introduction, a ysgrifennwyd gyda'r Athro Richard Jackson (Prifysgol Otago, Seland Newydd), Dr. Jeroen Gunning (Prifysgol Durham) a'r Athro Marie Breen Smyth (Prifysgol Surrey), wedi'i ddisgrifio fel "Cyflwyniad beirniadol ardderchog i faes ymchwil terfysgaeth ac i'n dealltwriaeth o'r ffenomena cysylltiedig" (Michael Stohl), ac fel "Chwal o awyr iach yn canolbwyntio ar bwnc - neu obsesiwn - y mae gwir angen hynny arno" (John Mueller).

Bydd y llyfr yn gyfarwydd i fyfyrwyr Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol gan ei fod yn destun creiddiol modiwl ôl-raddedig Lee, sef 'Terfysgaeth: Persbectif Beirniadol'. Mae Lee hefyd wedi ysgrifennu “Times of Terror: Discourse, Temporality and the War on Terror.”