Llwyddiant Dyddiadur Dyddiol yn dangos bod cynllun cydweithredol y Brifysgol ar y trywydd iawn i helpu cwmnïau Cymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid, wedi dathlu lansiad teclyn arloesol newydd a ddatblygwyd trwy gydweithrediad unigryw rhwng dau brosiect a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd.

SPRING FORWARDGwnaeth prosiect Uwch Dechnolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Prifysgol Abertawe (ASTUTE) a phrosiect Ehangu Cynaliadwy y Sectorau Arfordirol a Morol Cymhwysol (SEACAMS) Prifysgol Bangor arddangos y teclyn Dyddiadur Dyddiol mewn brecwast busnes am ddim yn Stadiwm Liberty Abertawe. 

Mae'r teclyn Dyddiadur Dyddiol yn tracio symudiadau anifeiliaid y môr a'r tir (er y gall tracio symudiadau pobl hefyd).  Cafodd ei ddatblygu gan Wildbyte Technologies Ltd, cwmni deillio a sefydlwyd yn 2012 gan grŵp ymchwil Labordy Symudiadau Anifeiliaid Prifysgol Abertawe.

‌Mae'r digwyddiad brecwast Naid Ymlaen: Gweithgynhyrchu'ch elw nesaf trwy ddefnyddio prototeipio / argraffu 3D yn ceisio dangos i fusnesau yn Ardal Gydgyfeirio Cymru sut all y fath gydweithredu rhwng y byd academaidd a diwydiant eu helpu i ddod yn fwy cystadleuol. Agorir y digwyddiad gan Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid.  Hithau yw'r Gweinidog sy'n gyfrifol am Gronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd hefyd.

SPRING FORWARD 2Dywedodd hi: "Dwi'n falch o glywed bod y cydweithrediad rhwng y ddau brosiect wedi hwyluso masnacheiddio technoleg y Dyddiadur Dyddiol. Mae hyn yn enghraifft ardderchog o uchafu effaith Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd i gyflawni amcanion ein Rhaglen ar gyfer Llywodraethu, ac o gefnogi buddsoddiadau arloesol sy'n helpu gyrru twf cwmnïau Cymru mewn partneriaeth â'n sefydliadau academaidd."

Fel arf ymchwil y datblygwyd y teclyn yn wreiddiol gan grŵp ymchwil Labordy Symudiadau Anifeiliaid Prifysgol Abertawe.  Mae'r Dyddiadur Dyddiol yn defnyddio electroneg soffistigedig i fonitro symudiadau ac ymddygiad anifeiliaid yn eu cynefin.  Mae’n recordio gwybodaeth yn gyflym iawn (sawl tro pob eiliad) i greu darlun manwl o leoliad ac ymddygiad yr anifail.

Mae'r wybodaeth sy'n cael ei recordio yn amrywio gan ddibynnu ar yr anifail sy'n cario'r teclyn, ond, fan lleiaf, mae'n cynnwys cyflymiad, cryfder y maes magnetig, pwysedd, a thymheredd.

Mae cylchedau electronig y Dyddiadur Dyddiol wedi'u datblygu a'u profi dros gyfnod o 5 i 10 mlynedd.  Ond, er mwyn marchnata'r teclyn, roedd angen cês cryf a chadarn, wedi'i ddylunio'n dda, ac wedi'i brofi'n dda, i gynnwys y cylchedau a'r cydrannau perthynol.  Hefyd, roedd angen gallu glynu'r teclyn ar wahanol rywogaethau, gan isafu'r effaith ar yr anifail o ran siâp, maint, a phwysau.

Roedd angen mynediad at arbenigedd peirianegol ar y grŵp ymchwil i ddylunio a chynhyrchu cês o'r fath, ac felly aethant at brosiect Ehangu Cynaliadwy y Sectorau Arfordirol a Morol Cymhwysol i gynorthwyo gyda modelu 3D a dyluniadau gweithgynhyrchu am y cynnyrch masnachol cyntaf, gan alluogi sylfaenu Wildbyte Technologies Ltd.

SPRING FORWARD 3Wedyn, cyflwynwyd Wildbyte Technologies Ltd i dîm prosiect Uwch Dechnolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy, er mwyn gallu manteisio ar eu harbenigedd dylunio, eu gwybodaeth o ddynameg gyfrifiadurol uwch mewn hylifau, a'u cyfleusterau argraffu 3D, sy'n caniatáu iddynt ymateb yn sydyn iawn.

Roedd hyn yn gyfle delfrydol i harneisio eu harbenigedd i ddylunio ac i gynhyrchu prototeip y cês i'r Dyddiadur Dyddiol a modelau 3D o gesau posibl.

Dywedodd yr Athro Johann Sienz, Cyfarwyddwr Prosiect ASTUTE a Nicole Esteban, Rheolwr Prosiect SEACAMS: "Rydym yn hynod o falch o fod yn rhan o'r cydweithrediad amlddisgyblaethol hwn rhwng dau brosiect a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd. Cyffrous iawn yw cyfuno ein harbenigedd technegol a'n hoffer i gefnogi Wildbyte Technologies Ltd i ddatblygu'r Dyddiadur Dyddiol, gyda'i botensial enfawr. Mae hefyd yn gyffrous i gydweithredu ar draws prosiectau, gan gyfuno arbenigedd sylfaenol unigryw o ystod o academyddion ar draws Prifysgol Abertawe â gwybodaeth ddwys swyddogion ein prosiectau.  

"Roedd y cydweithrediad hwn yn gallu cyflawni ei waith mewn cyfnod byr iawn, gan alluogi'r cwmni i wneud cynnydd cyflym a dod â'i declyn i'r farchnad."

Dywedodd Dr Mark Holton, Cyfarwyddwr Wildbyte Technologies: "Mae'n anodd tynnu'r holl alluoedd technegol at ei gilydd yn yr un lle, ac felly roedd cydweithredu rhwng Wildbyte Technologies a'r ddau brosiect wedi ein symud ymlaen yn gyflym iawn o ran ein parodrwydd a'n gallu i gynhyrchu'r teclyn cyntaf cyflawn mewn cyfnod mor fyr.

"Rydym wir yn gwerthfawrogi'r cymorth a dderbyniwyd, ac yn gobeithio parhau i gydweithredu yn y maes hwn. At y dyfodol, byddwn yn ceisio gwella technoleg y teclyn i ganiatáu monitro'r synwyryddion a thelemetreg radio am gyfnod hwy, ac i addasu'r teclyn ar gyfer amgylcheddau mwy heriol."


Am ragor o wybodaeth, ewch i:

Grŵp ymchwil Labordy Symudiadau Anifeiliaid Prifysgol Abertawe - http://www.swan.ac.uk/biosci/research/smart/

Prosiect Uwch Dechnolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy - http://astutewales.com/en/

Prosiect Ehangu Cynaliadwy y Sectorau Arfordirol a Morol Cymhwysol - http://www.swan.ac.uk/seacams/

Neu, cewch anfon e-bost at Wildbyte Technologies Ltd: wildbyte@live.com.