Hwb i Abertawe ar Drothwy Tymor Academaidd Newydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae’r Brifysgol wedi penodi pedwar darlithydd trwy Gynllun Staffio Academaidd y Coleg i weithio ym meysydd Cysylltiadau Cyhoeddus, y Gymraeg, Meddygaeth a Gwaith Cymdeithasol.

Mae Iwan Williams wedi ymuno ag Academi Hywel Teifi fel Darlithydd Cysylltiadau Cyhoeddus wedi pum mlynedd yn Bennaeth y Wasg, Cyhoeddiadau ac E-ddemocratiaeth gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Gobaith Iwan yw datblygu darpariaeth heriol fydd yn darparu’r myfyrwyr â sgiliau galwedigaethol fydd yn eu galluogi i fentro i’r byd gwaith yn ddidrafferth.

Hon fydd swydd gyntaf Llyr Gwyn Lewis ac yntau newydd gwblhau doethuriaeth ar waith T. Gwynn Jones a W. B. Yeats. Mae Llyr yn llais cyfarwydd i lawer fel aelod o fand y Violas a chyflwynydd rhaglen Stiwdio ar BBC Radio Cymru. Bydd yn cydlynu modiwlau yn Adran Gymraeg y Brifysgol megis theori dysgu iaith, dwyieithrwydd a chymdeithaseg a chynllunio iaith.

Fel Darlithydd Gwyddorau Meddygol, bydd Dr Heledd Iago yn cynnal gwaith ymchwil drwy’r Gymraeg yn ogystal â sefydlu sawl modiwl newydd gan gynnwys ‘Meddygaeth, Cymraeg a Chymreictod.’ Gobaith Heledd yw hyrwyddo’r Gymraeg ym maes meddygaeth gan feithrin hyder yn y myfyrwyr i drin a thrafod y maes trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Delyth Lloyd Griffiths wedi ymuno â Choleg Gwyddorau Dynol ag Iechyd y Brifysgol fel Uwch Ddarlithydd mewn Gwaith Cymdeithasol. Treuliodd gyfnod yn darlithio ym Mhrifysgol Bangor cyn cydlynu cwrs Ôl-radd i weithwyr cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe tan 2012. Ei dyletswydd pennaf fydd ehangu ar y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer myfyrwyr rhanbarth De-orllewin Cymru.

New welsh language lecturers

Yn ôl Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

‘‘Rydym yn falch iawn bod Prifysgol Abertawe wedi llwyddo i benodi’r academyddion blaengar hyn o dan Gynllun Staffio Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yn dymuno’r gorau iddynt wrth ymgartrefu ar gampws y Brifysgol. Rwy’n edrych ymlaen at weld cynnydd yn narpariaeth cyfrwng Cymraeg y Brifysgol dros y blynyddoedd nesaf o ganlyniad i fuddsoddiad y Coleg yn y swyddi hyn.”

Meddai’r Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:

‘‘Hoffwn longyfarch yr unigolion o dan sylw a’u croesawu’n wresog i’n plith yma ym Mhrifysgol Abertawe. Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg y brifysgol wedi cynyddu’n sylweddol diolch i Gynllun Staffio Academaidd y Coleg Cymraeg a bydd y swyddi hyn yn rhoi hwb ychwanegol i’r ddarpariaeth ar draws ystod eang o ddisgyblaethau cyffrous.’’

Llun: Chwith i’r adde:Llyr Gwyn Lewis;Iwan Williams;Dr Helledd Iago;Dr Delyth Lloyd Griffiths.