Gŵyl Ymchwil: Dilyn olion traed cythreuliaid

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Yn y ddarlith gyhoeddus hon, sy'n rhad ac am ddim ac sy'n agored i bawb, bydd Dr Kasia Szpakowska yn lansio Prosiect Demonoleg yr Hen Aifft: 2K BC ac yn esbonio rolau a defodau sy'n gysylltiedig â Chythreuliaid Eifftaidd cyn tywys y gynulleidfa ar daith archwilio o 'Lwybr y Cythreuliaid' yn y Ganolfan Eifftaidd.

Burning cobra demonTeitl: Following in the footsteps of demons: From Ancient Egypt to Swansea, Wales

Siaradwr: Dr Kasia Szpakowska

Dyddiad: Dydd Mercher 27 Chwefror

Amser: 12.30 pm

Lleoliad: Canolfan y Celfyddydau Taliesin, Prifysgol Abertawe

Mynediad: Mynediad am ddim a chroeso i bawb

I lansio Prosiect Demonoleg yr Hen Aifft: Yr Ail Fileniwm CC, bydd Dr Szpakowska, yn cyflwyno'r prosiect newydd, a gweledigaeth y cydweithredwyr ar gyfer cronfa ddata ryngweithiol ar-lein yn y dyfodol. Bydd yn dangos sut yr oedd pobl yn yr Hen Aifft yn ymdrin â'r bygythiad cyson a berir gan Gythreuliaid a hyd yn oed yn defnyddio pŵer y cythreuliaid er eu lles eu hunain. Mae rhai o'r gwrthrychau sy'n cynnwys darluniau o gythreuliaid, neu a fu'n cael eu defnyddio i yrru y cythreuliaid i ffwrdd, wedi goroesi ac wedi gwneud eu ffordd i'r casgliad yn y Ganolfan Eifftaidd.

Mae'r prosiect hwn a ariannir gan Ymddiriedolaeth Leverhulme a Phontio'r Bylchau yn ceisio creu teipoleg a dosbarthiad cynradd o gythreuliaid yr Hen Aifft, endidau goruwchnaturiol a phetheuach yr Ail Fileniwm cyn yr oes gyffredin.

Yn dilyn y ddarlith cynhelir taith dywys o "Lwybr Cythreuliaid" drwy'r Ganolfan Eifftaidd a fydd yn rhoi sylw i rai o'r gwrthrychau a ddefnyddir gan yr Eifftiaid i ddiogelu eu hunain o'r bygythiad cyson a berir gan gythreuliaid.

Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o Ŵyl Ymchwil Prifysgol Abertawe - arddangosiad wythnos o hyd o ragoriaeth ymchwil a gefnogir gan Bontio'r Bylchau, a gynhelir o ddydd Llun, Chwefror 25 tan ddydd Gwener, Mawrth 1, 2013.