Grant celf weledol i'r Brifysgol i helpu pobl â dementia

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'r Ganolfan Heneiddio Arloesol, yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe, yn cydweithredu ar brosiect gwerth £1.2 miliwn o dan y Rhaglen Cymunedau Cysylltiedig i ymchwilio i sut all y celfyddydau gweledol gyfrannu i iechyd a lles pobl sydd â dementia.

Bydd y Ganolfan yn cydweithio ag ymchwilwyr eraill mewn prifysgolion, grwpiau cymunedol, ac elusennau ac ymddiriedolaethau cenedlaethol, i ymchwilio i iechyd a lles cymunedol, ymgysylltu cymunedol, a symudedd.

Cyd-ariennir y Rhaglen Cymunedau Cysylltiedig gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau a'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.

Bydd yr ymchwil newydd, sydd i gychwyn ym mis Gorffennaf, yn ystyried sut all cymunedau sy'n gyfeillgar i ddementia elwa o weithgarwch creadigol. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod ymwneud â gweithgarwch celfyddydol yn gallu bod o les i bobl â dementia; ac mae rhai astudiaethau wedi nodi effeithiau megis llai o gynnwrf, neu fwy o eglurder wrth siarad.

Bwriad yr ymchwil newydd yw ystyried hyn yn fwy manwl, ond bydd hefyd yn ystyried sut all ymyriad gan ddefnyddio'r celfyddydau gweledol gynyddu cyfathrebu ag eraill a lleihau unigrwydd pobl â dementia. Cynhelir y gweithgareddau celfyddydol mewn nifer o leoliadau, a byddant yn cynnwys pobl sydd mewn ysbyty, pobl sydd mewn cartref preswyl, a phobl yn y gymuned.

Dywedodd yr Athro Vanessa Burholt, fydd yn arwain gwaith Prifysgol Abertawe ar rwydweithiau a chymunedau: "Gobeithio y bydd y prosiect yn defnyddio amrediad o gelfyddydau gweledol i herio agweddau negyddol ac i ailgysylltu pobl â dementia â'u cymunedau. Yn Abertawe, byddwn ni hefyd yn ymchwilio i sut mae'r artistiaid sy'n gweithio ar y prosiectau hyn yn teimlo am effaith eu gwaith ar y bobl â dementia, a sut maen nhw wedyn yn lledaenu a rhannu syniadau am hyn trwy eu rhwydweithiau proffesiynol. Wedyn, gallwn ddarganfod a oes unrhyw newid i agweddau tuag at, a chanfyddiadau am, bobl â dementia."

Dywedodd yr Athro Noel Thompson, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Mae'r Ganolfan Heneiddio Arloesol ym Mhrifysgol Abertawe'n enwog am ymchwil o'r radd flaenaf sy'n cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl hŷn. Dwi'n hynod o falch am y prosiect cyffrous hwn sy'n cyfuno cryfderau yn y gwyddorau cymdeithasol, y gwyddorau iechyd, y celfyddydau, seicoleg, economeg, polisi diwylliannol, ac astudiaethau amgueddfa i fynd i'r afael â dementia, un o'r heriau mwyaf cymhleth a brys y byd."