GPS yr Ymennydd: Ymchwilwyr yn Darganfod Niwronau Dynol yn Gysylltiedig â Llywio mewn Amgylcheddau Agored

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi helpu adnabod math newydd o gell yn yr ymennydd sy'n helpu pobl i gofio eu lleoliad wrth lywio amgylchedd nad yw'n gyfarwydd.

Signpost for Dr Christoph WeidemannRoedd Dr Christoph Weidemann o Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd yn y Brifysgol yn rhan o dîm a wnaeth adnabod "celloedd grid", sy'n codi eu henw o'r patrwm grid trionglog y mae celloedd yn gweithredu ynddo wrth lywio. Bydd y gwaith yn cael ei gyhoeddi yn rhifyn diweddaraf y cylchgrawn Nature Neuroscience.

Mae'r gell yn unigryw ymhlith celloedd yr ymennydd gan fod gweithredu'r gell cynrychioli amryw leoliadau gofodol. Yr ymddygiad hwn sy’n esbonio sut y mae celloedd grid yn caniatáu i'r ymennydd gofio manylion llywio, megis pa mor bell i ffwrdd yr ydych o fan cychwyn neu eich troad diwethaf. Yr enw ar y math hwn o lywio yw integreiddio llwybr.

Mae'r patrwm grid yn gyson ac mae'n dangos sut y gall pobl gofio eu lleoliad hyd yn oed mewn amgylcheddau newydd â gosodiadau anghyson. Heb gelloedd grid, mae'n debygol y byddai pobl yn mynd ar goll yn aml neu'n gorfod llywio gyda chymorth tirnodau yn unig.

Daethpwyd o hyd i'r gell drwy astudio recordiadau ymennydd cleifion ag epilepsi, gydag electrodau wedi'u mewnblannu'n ddwfn y tu fewn i'w hymennydd fel rhan o'u triniaeth.

Yn ystod y recordiadau ymennydd, bu'r 14 claf yn chwarae gêm fideo llywio a oedd yn eu herio i gerdded o un man i'r man arall i ddod o hyd i wrthrychau ac yna i gofio sut i fynd yn ôl i'r man y daeth pob gwrthrych ohono. Bu'r tîm yn astudio'r berthynas rhwng sut y gwnaeth cleifion lywio yn y gêm fideo a gweithgarwch niwronau unigol.

Er nad yw'r celloedd hyn yn unigryw ymhlith anifeiliaid - maen nhw wedi'u canfod yn flaenorol mewn llygod mawr - a gwnaeth astudiaeth flaenorol yn 2010 a fu'n defnyddio dulliau anfewnwthiol o ddelweddu'r ymennydd awgrymu bod y celloedd yn bodoli mewn bodau dynol, dyma'r tro cyntaf i fersiwn dynol y celloedd hyn gael eu hadnabod yn bositif. 

Mae canfyddiadau'r tîm hefyd yn awgrymu y gall y patrymau grid hyn fod yn fwy cyffredin mewn gwirionedd mewn bodau dynol nag yr ydynt mewn llygod mawr, oherwydd daethpwyd o hyd yn yr astudiaeth i gelloedd grid yn y cortecs entorhinaidd - lle y maent i'w gweld mewn llygod mawr - ond hefyd, mewn ardal gwahanol iawn o'r ymennydd - y cortecs cylchrwyog.

Y cortecs entorhinaidd yw rhan yr ymennydd sydd wedi'i hastudio mewn ymchwil i glefyd Alzheimer a gall deall celloedd grid helpu ymchwilwyr i ddeall pam fod pobl â chlefyd Alzheimer yn aml yn mynd ar goll. Gall hefyd eu helpu i ddysgu sut i wella gweithrediad yr ymennydd ymhlith pobl sy'n dioddef o'r clefyd hwn.

Meddai Dr Weidemann: "Mae astudio cleifion niwrolawdriniaeth yn aml yn cynnig cipolwg unigryw ar weithgarwch niwrol sy'n cefnogi llywio gofodol. Drwy recordio o electrodau a fewnosodwyd yn ymenyddiau ein cyfranogwyr, roedd modd i ni edrych yn uniongyrchol ar y cod niwrol y credir sy'n sail i gof gofodol mewn bodau dynol."

‎‎