From Walter Whittaker to Michael Laudrup: A helter-skelter journey by the Swans to Premiership glory

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cynhelir y ddarlith gyntaf yn y gyfres o ddarlithoedd cymunedol am ddim a drefnir gan yr Adran Addysg Barhaus Oedolion ym Mhrifysgol Abertawe ddydd Iau 10 Hydref, 2013.


Prof Geraint H JenkinsTeitl: “From Walter Whittaker to Michael Laudrup: A Helter-Skelter Journey by the Swans to Premiership Glory”

Siaradwr: Yr Athro Geraint H Jenkins, awdur “Proud to be a Swan”, Hanes Swyddogol Canmlwyddiant Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe 1912-2012 (Y Lolfa)


Dyddiad: Dydd Iau, Hydref 10, 2013

Amser: 6pm tan 8pm

Lleoliad:  Ystafelloedd Morfa, Stadiwm Liberty, Glandŵr, Abertawe

Mynediad: Mynediad am ddim a chroeso i bawb. Nid oes lle i fwy na 150 yn yr ystafell, felly dylech archebu lle ymlaen llaw i fod yn sicr o gael mynediad (gweler y manylion islaw).


Gwybodaeth am y siaradwr:

Mae'r Athro Geraint H Jenkins yn hanesydd, yn awdur, ac yn ddarlledwr. Mae'n byw ger Aberystwyth, ac mae'n Gyn-bennaeth Adran Hanes Cymru Prifysgol Aberystwyth, yn Gyn-gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, ac yn Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe.

Mae'r Athro Jenkins wedi ysgrifennu 35 o lyfrau, y rhan fwyaf ohonynt am hanes modern cynnar Cymru, neu hanes modern Cymru, ond rhai ohonynt yn ymwneud â chwaraeon - pêl-droed yn arbennig. Cyhoeddwyd ei lyfr llwyddiannus, “Proud to be a Swan”, Hanes Swyddogol Canmlwyddiant Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe 1912-2012  gan y Lolfa.

Mae ei gysylltiad ag Abertawe'n mynd yn ôl i 1964, pan ddaeth i astudio hanes dan Glanmor Williams, yr hanesydd o fri.  Roedd hefyd yn chwarae pêl-droed a chriced dros y Brifysgol.

Mae'n Gymrawd yr Academi Brydeinig a Chymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, a'i ddiddordebau yw chwaraeon, cerddoriaeth a garddio.


I archebu lle, neu am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01792 602211 neu anfonwch e-bost at:  adult.education@abertawe.ac.uk (D.S. ni fydd y lleoliad ei hun yn derbyn archebion). Ewch i www.swansea.ac.uk/dace.