Disgyblion yn 'goresgyn trychinebau naturiol'

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae pobl ifanc mewn ysgolion ar draws de Cymru'n cymryd rhan mewn cystadleuaeth eithafol LEGO ym maes Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Cynhelir Cynghrair FIRST® LEGO® yng Nghymru am y tro cyntaf erioed ym mis Rhagfyr (ar y 10fed), diolch i brosiect Technocamps Prifysgol Abertawe, ar y cyd â Chynllun Addysg Peirianneg Cymru a'r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg.

Yn y gystadleuaeth eleni (2013), bydd plant rhwng 9 a 16 oed yn cymryd rhan yn yr ‘Her Dicter Natur’.  Byddant yn edrych ar yr hyn a elwir yn drychinebau naturiol - pethau megis stormydd, daeargrynfeydd, tonnau mawr ac ati - yn rhan o'u profiad yn y Gynghrair, a gynhelir yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.

Mae FIRST® LEGO® yn gystadleuaeth fyd-eang i dimoedd myfyrwyr, a'r amcanion yw hybu diddordeb ym mhroblemau'r byd go iawn a datblygu sgiliau hanfodol ar gyfer gyrfaoedd y dyfodol. Gall myfyrwyr gystadlu yn erbyn timoedd eraill o bob cwr o'r Deyrnas Unedig ac Iwerddon i ennill ar lefel y Deyrnas Unedig - ac wedyn, efallai, ar lefel fyd-eang!

Bydd y bobl ifanc yn dysgu a datblygu sgiliau newydd ym meysydd dylunio a thechnoleg, rhaglenni a rheoli, mathemateg, ymchwil, cyflwyno, meddwl strategol, a gwaith tîm.  Gan ddefnyddio technoleg LEGO® MINDSTORMS®, bydd disgyblion yn cwblhau sawl her wahanol, gan gynnwys 'Y Gêm Roboteg', 'Y Cyflwyniad Technegol', 'Y Prosiect Ymchwil', ac 'Ymarfer Gwaith Tîm'.

Bydd disgyblion yn dysgu beth y gellir ei wneud pan geir digwyddiad naturiol dwys mewn man lle mae pobl yn byw, yn gweithio, ac yn chwarae.

Dywedodd yr Athro Faron Moller, Cyfarwyddwr Technocamps ym Mhrifysgol Abertawe, "Mae Technocamps yn cynnal cystadleuaeth roboteg lwyddiannus iawn yn y digwyddiad blynyddol, 'Big Bang Cymru'. Fodd bynnag, mae'r gystadleuaeth hon o fri byd-eang, ac rydym yn hynod o falch o weithio gyda Chynllun Addysg Peirianneg Cymru a'r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg i roi cyfle i bobl ifanc Cymru gymryd rhan mewn her mor arbennig."

Dywedodd Bob Cator, Prif Swyddog Gweithredol Cynllun Addysg Peirianneg Cymru, "Mae’n briodol iawn ein bod yn gweithio gyda Technocamps i hyrwyddo Cynghrair First Lego yng Nghymru.  Mae rheoli â chymorth cyfrifiadur yn agwedd mor bwysig ar ddiwydiant cyfoes ac felly mae'n rhaid i ni ddatblygu diddordeb yn y dechnoleg hon er mwyn gwella'r gwaith yr ydym yn ei wneud i annog disgyblion i fynd am yrfa ym meysydd peirianneg a gweithgynhyrchu.”