Dathlu Cyflawniad: Cynulliadau Graddio a Gwobrwyo Gaeaf 2014

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Dathlir cyflawniadau dros 1,200 o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ddydd Iau 23 Ionawr a dydd Gwener 24 Ionawr yr wythnos nesaf, yng Nghynulliadau Graddio a Gwobrwyo'r Gaeaf Prifysgol Abertawe.

GraduationCynhelir Cynulliadau'r Gaeaf, ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cwblhau eu hastudiaethau ers mis Gorffennaf 2013, yn Theatr y Grand, Abertawe. Bydd teuluoedd a ffrindiau'r myfyrwyr yno hefyd, yn ogystal â swyddogion y Brifysgol, staff academaidd, cynrychiolwyr Undeb y Myfyrwyr, a swyddogion a phwysigion dinesig.

Aiff y graddau a'r gwobrau i fyfyrwyr o Goleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau, y Coleg Peirianneg, y Ganolfan Gwella Sgiliau Academaidd a Phroffesiynol, yr Adran Addysg Barhaus Oedolion, yr Ysgol Rheolaeth, a Choleg y Gyfraith ddydd Iau, ac i fyfyrwyr Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, y Coleg Meddygaeth, a'r Coleg Gwyddoniaeth ddydd Gwener.

Dywedodd yr Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Unwaith eto, mae un o achlysuron hapusaf y flwyddyn academaidd yn prysur agosáu, a hoffwn gynnig fy llongyfarchiadau mwyaf gwresog i'n myfyrwyr a fydd yn graddio'r wythnos nesaf.

"Mae'r Cynulliadau Graddio a Gwobrwyo'n cofnodi diweddglo llwyddiannus llawer o ymroddiad ac ymdrech gan ein myfyrwyr i gwblhau rhaglen radd neu ddyfarniad.  Mae ein graddedigion yn haeddu ymfalchïo yn yr hyn y maent wedi'i gyflawni - y cymwysterau a'r sgiliau lefel uwch sydd eu hangen i ddilyn gyrfa wobrwyol a boddhaus - a hoffwn ddymuno pob llwyddiant iddynt ar gyfer y dyfodol.

"Mae'r cynulliadau hefyd yn ein galluogi i gydnabod y rôl bwysig sydd gan ffrindiau a theulu wrth gefnogi ac annog ein myfyrwyr drwy gydol eu blynyddoedd astudio ac rydw i wrth fy modd y bydd cymaint ohonynt yn gallu ymuno â ni yn Abertawe'r wythnos nesaf.

"Rydw i'n gobeithio y bydd graddedigion eleni'n edrych yn ôl â chryn falchder ar eu hamser yn Abertawe, gyda'i phrofiad arobryn i fyfyrwyr a'i lleoliad heb ei ail, wrth i ni edrych ymlaen at oes newydd ar gyfer y Brifysgol, a fydd yn cynnwys profiad myfyrwyr estynedig, byd-eang i raddedigion y dyfodol."

Am ragor o wybodaeth am Gynulliadau Graddio a Gwobrwyo Gaeaf 2014 Prifysgol Abertawe, (Iau 23 Ionawr a Gwener 24 Ionawr), gan gynnwys hanesion llwyddiannau myfyrwyr o'r Colegau academaidd a manylion Gwobrau Anrhydeddus eleni, ewch i http://www.swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/graddio/.