Dathliadau canmlwyddiant Neville Masterman

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Neville Masterman, a fu'n addysgu yn yr Adran Hanes ym Mhrifysgol Abertawe o'r 1940au tan y 1970au, wedi dathlu ei ben-blwydd yn 100 oed mewn digwyddiad a fynychwyd gan fwy na 60 o bobl ym Mhrifysgol Abertawe.

Cafodd Neville ei eni ar 28 Tachwedd 1912 yn Llundain. Roedd ei dad Charles Frederick Gurney Masterman (1873 – 1927) yn Wleidydd yn y Blaid Ryddfrydol Brydeinig ac yn newyddiadurwr a fu'n gwasanaethu dan y Prif Weinidog Asquith fel Canghellor Dugiaeth Gaerhirfryn rhwng 1914 -1915.

Neville Masterman

Mae gan Neville ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth Brydeinig ac Ewropeaidd y bedwaredd ganrif ar bymtheg - Sosialaeth Gristnogol, y Blaid Ryddfrydol a dyheadau cenedlaethol ymhlith llawer o bethau eraill. Bu'n addysgu yn Budapest cyn yr Ail Ryfel Byd, dysgodd Hwngareg ac ysgrifennodd lawer ar lenyddiaeth, hanes a gwleidyddiaeth Hwngari yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg; Mae Neville bellach yn byw yn Abertawe.

Cynhaliwyd y dathliadau yn Siambr y Cyngor, Abaty Singleton. Bu'r Athro Kenneth O. Morgan yn cyflwyno'r digwyddiadau, gan ddwyn i gof y blynyddoedd y treuliodd yntau ei hun fel un o gydweithwyr Neville Masterman - gan gynnwys rhannu ystafell gyda fe yn yr Abaty. Gwnaeth Kenneth Morgan atgoffa'r sawl a oedd yn bresennol am rai o'r cyfraniadau pwysig y mae Neville Masterman wedi'u gwneud i astudio Hanes.

Yn dilyn yr Athro Morgan, rhoddodd yr Athro Chris Williams ddarlith a fu'n clymu ynghyd agweddau o yrfa Neville ei hun a'i ddiddordebau academaidd mewn hanes Prydeinig a Hwngaraidd. Cafwyd cyflwyniad hefyd gan Gangen Abertawe o'r Sefydliad Hanesyddol yr oedd Neville unwaith yn ysgrifennydd iddynt.

I ddod â'r noswaith i ben, cyflwynodd y brifysgol lyfryddiaeth wedi'i diweddaru i Neville o'i ysgrifennu a'i ddarllediadau ei hun, a wnaed yn bosib drwy garedigrwydd ffrindiau a phobl sydd am ddymuno'n dda iddo; bydd y cronfeydd sy'n weddill yn cael eu defnyddio i sefydlu gwobr ar gyfer myfyriwr sy'n gweithio ym maes Hanes Prydeinig ac Ewropeaidd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Cydnabu llwyddiannau Neville hefyd gan Lysgennad Hwngari, a anfonodd lythyr ffurfiol i’w gyfarch a’i longyfarch, a chan Brifysgol Eotvos Lorand yn Budapest lle y dechreuodd ei yrfa ysgolheigaidd. Mae'r cysylltiad hefyd wedi denu ymweliad gan Sefydliad Diwylliannol Hwngari, Llundain a fydd yn ymweld ag Abertawe yn fuan i gwrdd â Dr Law i drafod cydweithrediadau diwylliannol ar gyfer y dyfodol.

Neville Masterman

Trefnwyd y noswaith gan Dr John Easton Law, Darllenydd yn yr Adran Hanes a'r Clasuron ym Mhrifysgol Abertawe, a oedd yn un o gydweithwyr Neville yn y 1970au. Daeth i ben â'r defodau drwy longyfarch Neville ar ei ganmlwyddiant a thrwy adrodd rhai o'r teyrngedau a roddwyd iddo o Brydain a Hwngari.

Mae cronfa Neville Masterman yn parhau i fod ar agor, a dylai'r rhai hynny sydd am gyfrannu gysylltu â Dr John Law, yr Adran Hanes a'r Clasuron: J.E.Law@abertawe.ac.uk

 
 
Professor Chris Williams, Professor Kenneth O. Morgan, Dr John Law and Neville Masterman