Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.
George Abbey oedd dyn NASA yn y Ganolfan Rheoli pan ddaeth y neges fythgofiadwy 'na o Apollo 13: "Houston, we have a problem". Efe ddewisodd griwiau'r wennol ofod, efe helpodd i ddatblygu'r Orsaf Ofod Ryngwladol, efe anfonodd y fenyw Americanaidd gyntaf i'r gofod, ac efe oedd yn gyfrifol am sicrhau anfon copi o farddoniaeth Dylan Thomas i gylchdroi'r ddaear.
Traddododd Mr George W. S. Abbey Sr., cyn-gyfarwyddwr Canolfan Ofod Johnson NASA, a Chymrawd mewn Polisi Gofod yn Sefydliad Baker, Prifysgol Rice, Houston, ddarlith flynyddol Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe ar 25 Ebrill. Anrhydedd a phleser oedd ei groesawu i'r Brifysgol.
Ganwyd George Abbey yn Seattle. Daeth ei fam o Lacharn, ac mae gan Mr Abbey ddiddordeb parhaus yng Nghymru a'i etifeddiaeth Gymreig. Mae'n Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol Abertawe.
Cafodd y ddarlith ei chyflwyno gan Gwyneth Lewis, cyn-Fardd Cenedlaethol Cymru, sydd ar hyn o bryd yn Gymrawd y Gronfa Lenyddol Frenhinol ym Mhrifysgol Abertawe. Darllenodd o 'Zero Gravity', sef casgliad o gerddi a seiliwyd ar brofiadau ei chefnder Cymreig-Americanaidd, Joe Tanner, a deithiodd yn y wennol ofod, 'Discovery'.
- Dydd Mawrth 30 Ebrill 2013 17.50 BST
- Dydd Mawrth 10 Medi 2019 12.28 BST
- Public Relations Office