Cylchgrawn Cyngor Ymchwil yn rhoi sylw i ymchwil y Sefydliad Sbectrometreg Màs

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae rhifyn y gwanwyn o gylchgrawn Business o eiddo'r Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol yn cynnwys stori am waith gwyddonwyr Coleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe a Sefydliad Karolinska yn Stockholm, Sweden. Mae'r gwaith wedi canfod dau foleciwl, tebyg i steroidau, sydd â rôl bwysig o ran diogelu a chynhyrchu celloedd nerf yn yr ymennydd.

BBSRC SPRINGGallai'r darganfyddiad - cyhoeddwyd y manylion yn y cylchgrawn rhyngwladol arlein Nature Chemical Biology ym mis Ionawr eleni - fod yn arwyddocaol yn y tymor hir o ran trin sawl clefyd, megis clefyd Parkinson.

I weld copi o'r cylchgrawn, cliciwch yma, a gellir dod o hyd i gopi o'r stori (ar dudalen 27) yma: BBSRC SPRING2 hefyd.

Mae'r Athro William J Griffiths a Dr Yuqin Wang, yn y Sefydliad Sbectrometreg Màs yn y Coleg Meddygaeth, yn arwain y gwaith ym Mhrifysgol Abertawe, gyda chefnogaeth y Cyngor Ymchwil. Cewch ddarllen rhagor am eu gwaith yn fan hyn.


Sefydliad Sbectrometreg Mas

Er canol y 1970au, pan sefydlwyd Uned Ymchwil y Gymdeithas Frenhinol gan yr Athro John H Beynon FRS, mae Prifysgol Abertawe wedi hen ennill ei phlwyf fel canolfan ragoriaeth.

Denodd yr uned ymchwil sefydledig am sbectrometreg mas Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) ym 1986. Mae’r cyfleuster ystod ganolig hwn sy’n perthyn i EPSCRC yn agored i bob grŵp ymchwil prifysgolion y DU. Rhoddir blaenoriaeth i ymchwil a ariennir gan EPSRC a chedwir rhywfaint o’r adnoddau ar gyfer gwasanaethau masnachol. Mae’n arbenigo mewn dadansoddiadau anodd na all gwyddonwyr eu cynnal oherwydd diffyg arbenigedd neu gyfarpar.

Mae’n arbennig o berthnasol ym meysydd cemeg, gwyddorau biolegol, meddygaeth, deunyddiau gwyddonol, gwaith fforensig, fferylliaeth a dadansoddi amgylcheddol. Mae sbectrometreg mas yn cynnwys ïoneiddio sampl er mwyn cynhyrchu naill ai ionau positif neu negyddol o rywogaethau’r moleciwl. Trosglwyddir yr ïonau hyn i’r dadansoddwr sbectromedr mas lle caiff y mas, y cyfansoddiad elfennol a’r strwythur eu pennu ar sail y sbectra a gynhyrchir.

Gellir dadansoddi cymysgeddau cymhleth drwy ychwanegu techneg gromatograffig er mwyn gwahanu’r rhywogaethau amrywiol yn y gymysgedd cyn mesur y mas. Mae ymchwil yn y Sefydliad SbectrometregMas yn cynnwys sbectrometreg mas meddygol, dan arweiniad yr Athro William J Griffiths a Dr Yuqin Wang, a sbectrometreg mas dadansoddol a datblygu/dylunio offerynnau gan yr Athro Gareth Brenton.

Grŵp yr Athro Griffiths sy’n arwain yr ymchwil i lipidomeg, metabalomeg a phroteomeg ac mae wedi ennill bri rhyngwladol ym maes metabolaeth colestrol. Mae’r gwaith sy’n mynd rhagddo yn cynnwys astudio rôl metabolotegau colestorol mewn achosi afiechydon niwro-ddirywiol a llidiol.

Yn ystod y tri degawd diwethaf, mae’r Sefydliad Sbectrometreg Mas wedi bod yn gyfrifol am sawl arloesiad mewn sbectrometreg mas a dylunio offerynnau y mae gweithgynhyrchwyr offer gwyddonol o bwys wedi’u mabwysiadu.

Mae’r Sefydliad Sbectrometreg Mas wedi datblygu cyrsiau hyfforddiant ôl-raddedig a phroffesiynol am Sbectrometreg Mas a Gwyddorau Gwahanu. Mae’r rhaglenni unigryw hyn wedi’u dylunio i roi cymhwyster galwedigaethol perthnasol i raddedigion gwyddoniaeth a pheirianneg i roi sgiliau ac arbenigedd iddynt i’w galluogi i weithio mewn amrywiaeth eang o ddiwydiannau.

Ym mis Mawrth, 2013, cyhoeddwyd bod Coleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe wedi derbyn grant o £3miliwn i barhau i gynnal prif gyfleuster ymchwil Sbectrometreg Màs y Cyngor Ymchwil (cewch ddarllen rhagor yma.)