Cant o athrawon i wella eu sgiliau Cyfrifiadureg

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae rhaglen sy’n nodi cyfnod newydd o ran y ffordd y caiff Cyfrifiadura ei ddysgu mewn ysgolion wedi derbyn cymeradwyaeth i fwrw ymlaen gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r prosiect Technocamps sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Abertawe newydd sicrhau cyllid gan yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol drwy Lywodraeth Cymru i ddarparu cyfres o raglenni addysgu dwys i athrawon ac addysgwyr ym maes Cyfrifiadura a Chyfrifiadureg.

Bydd yr hyfforddiant datblygu proffesiynol a fydd yn rhedeg dros gyfnod o chwe wythnos ar gyfer pum grŵp gwahanol o athrawon yn dechrau’r mis nesaf (Tachwedd 6ed) gydag 20 o athrawon ysgolion cynradd yn dysgu sgiliau newydd mewn Cyfrifiadureg y gellir eu cymhwyso yn yr ystafell ddosbarth.

Mae’r hyfforddiant hwn yn ategu adroddiad diweddar Grŵp Llywio TGCh Llywodraeth Cymru sy’n argymell ‘Dylai bod rhaglen o hyfforddiant a datblygiad proffesiynol i alluogi’r cwricwlwm Cyfrifiadura newydd ar gael i athrawon newydd ac  i bobl sy’n athrawon yn barod.’

Meddai’r Athro Faron Moller, Cyfarwyddwr Technocamps, ‘Mae hwn yn gyfle gwych i athrawon gael profiad hyfforddiant dwys fel rhan o’r ymgais i gyflwyno Cyfrifiadureg mewn Addysg. Mae adroddiad Grŵp Llywio TGCh Llywodraeth Cymru’n argymell integreiddio Cyfrifiadura i’r cwricwlwm fel y bedwaredd wyddoniaeth, ac yn hynny o beth, bydd y rhaglen hon yn rhoi mantais i athrawon o safbwynt gallu arfogi eu hunain gyda’r sgiliau angenrheidiol sydd eu hangen arnynt i ddarparu cyfrifiadura yn yr ysgol.’

Caiff y tair wythnos gyntaf eu cynnal ym Mhrifysgol Abertawe a’r tair wythnos olaf yn y sefydliad sydd newydd ei ffurfio, Prifysgol De Cymru, y Drindod Dewi Sant, ar y campws yn Abertawe.

Bydd hyfforddiant ar gyfer y garfan gyntaf o athrawon o ysgolion cynradd yn canolbwyntio ar 'Scratch', 'Logo' a 'Hopscotch' ac erbyn diwedd y cwrs bydd athrawon yn teimlo’n hyderus yn defnyddio’r rhain fel rhan o’u haddysgu, a bydd hynny o fudd i fyfyrwyr.

Rhaid i unrhyw un sydd â diddordeb cymryd rhan ymrwymo i fynychu’r cwrs cyfan. Mae’r cwrs yn rhad ac am ddim i’w fynychu a byddwn hefyd yn talu costau cyflenwi ar gyfer y sesiwn gyntaf 1pm-8pm (uchafswm o £80). I gofrestru, ewch i https://www.eventbrite.co.uk/event/8875670369

Bydd cyfres o gyrsiau’n cael eu cynnal dros y flwyddyn nesaf ar gyfer athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd, felly os ydych yn colli’r sesiynau hyfforddi cyntaf bydd cyfle gennych i gymryd rhan y flwyddyn nesaf.

Mae Technocamps hefyd yn cynnal cynhadledd i athrawon ar 26ain Tachwedd yn Stadiwm Liberty a fydd yn canolbwyntio ar y cyfnod pontio i gyfnod allweddol 3.  Bydd modd i athrawon gael golwg ar argymelliadau adroddiad Llywodraeth Cymru, trosolwg o’r hanesion llwyddiant yng Nghymru yn barod, yn ogystal â chyfle i fynychu gweithdai ar Scratch, Microsoft Kodu, LEGO a Playground Computing.

Bydd disgyblion o ysgol leol hefyd yn cael eu cynnal ar y dydd ac yn mynychu gweithdai wedi’u rhedeg gan Technocamps a Chronfa Digital Makers, gan gynnwys Codo Dojo, Technology will Save Us, Playground Computing a Cargobots. I gofrestru, ewch i https://creatingadigitalfuture.eventbrite.co.uk/