Angen ymgeiswyr i fod yn 'Brentis Treftadaeth'

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Os yw ymuno â rhaglen The Apprentice erioed wedi apelio atoch - ond mae ofn arnoch wynebu'r bys enwog - peidiwch â becso rhagor! Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ymuno â rhaglen 'Prentis' y Brifysgol - ac mae gennych tan 7 Mai i ymgeisio.

Gwahoddir Myfyrwyr Ôl-raddedig ledled y genedl i gymryd rhan mewn rhaglen flaenllaw ac unigryw, gyda chyfle i gystadlu mewn digwyddiad tîm a ariannir yn llawn sydd wedi'i seilio ar gyfres deledu'r BBC 'The Apprentice’.

Bydd myfyrwyr yn mynd i'r afael â heriau penodol yn ymwneud â Cu@Abertawe, prosiect adfywio cyffrous a arweinir gan dreftadaeth yn canolbwyntio ar safle Hen Weithfeydd Copr Hafod yng Nghwm Tawe isaf.  Mae'r prosiect aml bartner hwn wedi'i arwain gan yr Athro Huw Bowen o'r Adran Hanes a'r Clasuron ym Mhrifysgol Abertawe.  Am ragor o wybodaeth ar brosiect CU@Abertawe, ewch i: www.welshcopper.org.uk

Rhoddir tasgau i dimoedd gan banel o arbenigwyr o'r byd academaidd, y byd treftadaeth, y byd busnes a'r byd twristiaeth; a bydd y tîm sy'n fuddugol yn cael ei 'gyflogi' i ymgymryd â lleoliad gwaith pythefnos o hyd gyda'r Athro Bowen.

Darparir arbenigedd a mentora gan gynrychiolwyr o sefydliadau treftadaeth nodedig a phroffesiynol yn ogystal â chan academyddion yn Abertawe. Mae'r rhaglen yn cynnig cyfleoedd i roi hwb i ragolygon cyflogadwyedd ac i ennill y sgiliau trosglwyddadwy a'r profiad y mae galw mawr amdanynt ar hyn o bryd yn y sectorau treftadaeth a thwristiaeth.  Bydd 'Y Prentis Treftadaeth' yn rhedeg o'r 3-7 Mehefin 2013.

Mae 'Y Prentis Treftadaeth' yn rhan o'r Rhaglen Sgiliau Treftadaeth, a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, ac fe'i trefnir gan Ganolfan Ôl-raddedig Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe.

I wneud cais dylech anfon CV 2 dudalen a chrynodeb 250 gair yn rhoi gwybod i ni pam mai chi yw'r ymgeisydd addas ar gyfer y rhaglen, at Kate Spiller, Cydlynydd y Prosiect: k.spiller@abertawe.ac.uk

Gwahoddir myfyrwyr ôl-raddedig ym mhob disgyblaeth i wneud cais. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12.00pm ar 7 Mai 2013