Academydd o Abertawe yn cael ei phenodi i grŵp cynghori ar loches

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi'i phenodi i grŵp cynghori llywodraethol sy'n cynghori ac yn hysbysu ar y broses gwneud penderfyniadau ynghylch lloches.

Prof Heaven CrawleyMae'r Athro Heaven Crawley AcSS o'r Ganolfan ar gyfer Ymchwil Polisi Ymfudo (CMPR) wedi'i phenodi gan John Vine, Prif Arolygydd Ffiniau a Mewnfudo i fod yn rhan o'r Grŵp Cynghori Annibynnol ar Wybodaeth Gwlad Tarddiad (IAGCI). Bydd y penodiad tan 31 Mai 2015.

Mae'r IAGCI, a sefydlwyd ym mis Mawrth 2009, yn cynghori'r Prif Arolygydd am gynnwys ac ansawdd Gwybodaeth Gwlad Tarddiad (COI) a gynhyrchir gan y Swyddfa Gartref i hysbysu penderfyniadau a wneir ynghylch a ddylid caniatáu statws ffoaduriaid i geiswyr lloches a chaniatáu iddynt aros yn y DU. Mae'r Pwyllgor yn gwneud awgrymiadau mwy cyffredinol eu natur am y broses loches.

Mae'r Athro Crawley wedi'i hystyried yn eang yn un o arbenigwyr blaenllaw'r wlad ar system ceisio lloches y DU ac mae wedi gwneud gwaith ymchwil ar sawl agwedd o’r broses loches am dros 20 mlynedd. Cyn ymuno â'r Brifysgol bu'n arwain rhaglen loches y Swyddfa Gartref ei hun a bu'n Gyfarwyddwr Cyswllt yn y Sefydliad ar gyfer Ymchwil Polisi Cyhoeddus. Rhoddwyd y teitl Academwraig Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol yn ddiweddar i'r Athro Crawley i gydnabod ei hymchwil polisi dylanwadol.

Yn 2011 cafodd yr Athro Crawley ei chomisiynu gan yr IAGCI i ysgrifennu adroddiad ymchwil ar y ffyrdd yr ymdriniwyd a materion menywod yn yr adroddiadau a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Gartref ar gyfer gwneuthurwyr penderfyniadau. Mae ei phenodiad i'r IAGCI yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad a chyflwyno ei ganfyddiadau i aelodau'r Pwyllgor.

Meddai'r Athro Crawley: "Mae ansawdd y Wybodaeth Gwlad Tarddiad yn hanfodol o safbwynt penderfynu pwy sydd, a phwy sydd ddim, yn gymwys i gael statws ffoadur yn y DU. Heb wybodaeth ansawdd uchel am gyflyrau gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd y gwledydd y daw ceiswyr lloches ohonynt, mae'n amhosib gwybod a fyddant yn cael eu diogelu neu beidio os ydynt yn dychwelyd. Mae gan yr IAGCI rôl hanfodol wrth fonitro ansawdd adroddiadau ymchwil ac mae'n gallu tynnu ar ystod eang o arbenigwyr rhyngwladol i hysbysu ei waith. Rydw i wrth fy modd o gael fy mhenodi i'r IAGCI ac yn edrych ymlaen at weithio gyda'r Pwyllgor dros y blynyddoedd sydd i ddod".