Academi newydd ar gyfer cynwysoldeb a chymorth i ddysgwyr

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Denu rhagor o bobl o gefndiroedd difreintiedig i addysg uwch, a gwella'r cymorth a ddarparir i fyfyrwyr: dyna amcanion Academi newydd a fydd yn cael ei lansio ym Mhrifysgol Abertawe gan AS lleol Dr Hywel Francis.

Enw'r academi newydd yw SAILS, Academi Cynwysoldeb a Chymorth i Ddysgwyr Abertawe.   Un o flaenoriaethau SAILS yw denu rhagor o bobl i'r Brifysgol o ardaloedd difreintiedig, yn enwedig y rhai hynny a ddynodir fel ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf.  Yn benodol, bydd SAILS yn canolbwyntio ar ddenu pobl i astudio pynciau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u hadnabod yn flaenoriaeth, megis gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, meddygaeth ac ieithoedd.

Bydd SAILS yn darparu "porth" o gyfleoedd i bobl yn yr ysgol a'r coleg ac i grwpiau eraill yn y gymuned.  Mae'n adeiladu ar waith y bu'r Brifysgol eisoes yn ei wneud gyda grwpiau gwahanol, o ddisgyblion ysgolion cynradd i'r gweithlu a'r cyhoedd.  

Meddai Dr Hywel Francis, a fydd yn Noddwr SAILS:

"Mae gan Brifysgol Abertawe hanes hir o weithio ar draws De-orllewin Cymru i alluogi pobl i astudio ar lefel addysg uwch nad oeddent o bosib wedi ystyried gwneud hynny. Bydd lansio SAILS yn adeiladu ar y cofnod cryf hwn ac yn cyflwyno mentrau newydd a fydd o fudd i fyfyrwyr, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach."

Meddai'r Athro Alan Speight, Dirprwy Is-ganghellor, Prifysgol Abertawe, a fydd yn cynnal digwyddiad lansio SAILS:

"Mae SAILS yn dangos ymrwymiad parhaus y Brifysgol i ehangu mynediad i addysg uwch a sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn yr ansawdd uchaf o gymorth i'w galluogi i lwyddo yn eu hastudiaethau ac i gyrraedd eu potensial llawn."

Mae gan SAILS y potensial i drawsffurfio bywydau pobl o gymunedau difreintiedig, drwy roi cyfleoedd iddynt ddatblygu eu sgiliau academaidd a galwedigaethol".

Bydd SAILS yn ceisio denu a chynorthwyo rhagor o fyfyrwyr megis Alex Hemmingway sy'n fyfyriwr y Gyfraith yn ei thrydedd flwyddyn.  Pan roedd hi yn y chweched dosbarth yn 2009, mynychodd Alex Ysgol Haf y Gyfraith Menter y Cymoedd.  Gan ddisgrifio'r profiad, meddai:

"Rhoddodd syniad i mi o sut le fyddai'r Brifysgol a gwnes i fwynhau'r profiad i gyd yn fawr.  Yn seiliedig ar y profiad hwn penderfynais astudio'r Gyfraith yn Abertawe gan ei fod wedi gwneud i mi deimlo bod Abertawe'n brifysgol groesawgar gyda chymwysterau addysgu da."