18 mis pellach o ariannu i fenter gwyddoniaeth a pheirianneg y brifysgol, ‘Defnyddiau: Byw!’

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae prosiect estyn allan ac ymgysylltu arloesol gan Brifysgol Abertawe, sy'n cyflwyno rhyfeddodau gwyddor defnyddiau a pheirianneg i ddiddanu, ennyn diddordeb ac addysgu gwyddonwyr a pheirianwyr y dyfodol, wedi derbyn ariannu sylweddol gan Lywodraeth Cymru.

Materials Live 1Mae'r prosiect Defnyddiau: Byw!, a arweinir gan Dr Richard Johnson a Dr Ian Mabbett o Ganolfan Ymchwil Defnyddiau Prifysgol Abertawe, yn y Goleg Peirianneg, a bydd yn para tan 31 Mawrth 2015.

Mae'r prosiect werth mwy na £150,000, a chaiff ei ariannu'n rhannol gan Gynllun Grantiau Academi Wyddoniaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Ganolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol (SPECIFIC) y Coleg Peirianneg a phrosiectau a phartneriaid diwydiannol cysylltiedig y Ganolfan Uwch Hyfforddiant Doethuriaethau Peirianneg (COATED).

Anogir myfyrwyr COATED, yn ogystal â myfyrwyr israddedig gwyddor defnyddiau a pheirianneg, i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu drwy gynllunio a darparu gweithgareddau estyn allan fel llysgenhadon gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).

Sefydlwyd y prosiect Defnyddiau: Byw! ym mis Tachwedd 2012, ac i ddechrau roedd yn rhan o gynllun peilot saith mis a ariannwyd gan yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol.

Galluogodd hyn i Dr Ian Mabbett, Cymrawd Trosglwyddo Technoleg gyda phrosiect SPECIFIC, ddatblygu cysylltiadau â darparwyr STEM ac adeiladu rhwydwaith o ysgolion a cholegau yng Nghymru a fyddai'n elwa o ddealltwriaeth well o ddefnyddiau clyfar a'r diwydiannau gwyddor defnyddiau a pheirianneg yng Nghymru.  Mae Defnyddiau: Byw! bellach yn rhan o sylfaen fenter hyfforddiant ac ymchwil fawr yr Academi Ddefnyddiau.

Mae'r ariannu hefyd wedi galluogi i'r tîm ddatblygu arddangosiadau defnyddiau a sioeau darlith teithiol am ddim, gan hefyd hwyluso ymweliadau â'r Ganolfan Ymchwil Defnyddiau ar Gampws Parc Singleton y brifysgol a labordai a llinell beilot prosiect SPECIFIC yng Nghanolfan Arloesedd a Gwybodaeth Bae Baglan.

Bydd yr ariannu ychwanegol yn adeiladu ar lwyddiant y prosiect Defnyddiau: Byw! cychwynnol, gan alluogi ehangu'r gweithgareddau ac arddangosiadau estyn allan ac ymgysylltu presennol.

Bydd y prosiect yn darparu ysbrydoliaeth gan ddefnyddiau yn gysylltiedig â'r cwricwlwm a gwybodaeth am yrfaoedd perthnasol yng Nghymru i ddisgyblion 6-18 oed (Cyfnodau Allweddol 1-4 ac addysg bellach ôl-16) i ennyn diddordeb a'u cyffroi â phynciau STEM a'u hysbrydoli i astudio'r pynciau hynny ymhellach.

Mae cynlluniau hefyd yn cynnwys ehangu'r cwmpas i gynnwys datblygu proffesiynol i athrawon a darparu offer i addysgu agweddau defnyddiau clyfar ar y cwricwlwm ar sail adborth gan athrawon a gymrodd rhan yng nghynllun peilot y prosiect.

Meddai Dr Ian Mabbett, Rheolwr Ymgysylltiad Cyhoeddus Defnyddiau: Byw!, “Mae treftadaeth gwyddor defnyddiau a pheirianneg gref a balch yng Nghymru, gyda llawer o brosesau gweithgynhyrchu wedi'u harloesi yma.”

"Bydd diffyg myfyrwyr a graddedigion defnyddiau yn effeithio ar allu ein gweithlu yn y dyfodol i fodloni gofynion yr economi fyd-eang, felly mae angen i ni wneud rhywbeth i fynd i'r afael â hynny nawr."

MATERIALS LIVE 2"Mae Defnyddiau: Byw! yn brosiect blaengar sy'n ceisio cynyddu proffil gwyddor defnyddiau a pheirianneg mewn ffordd berthnasol, cyffrous ac sy'n denu sylw i ddisgyblion ac athrawon, ac mae llawer wedi'i gyflawni drwy'r prosiect peilot cychwynnol.  Galluogodd prosiect cychwynnol Defnyddiau: Byw! i 310 o ddisgyblion ymweld â'n cyfleusterau a 1,269 o ymweliadau pellach gan ein llysgenhadon.  Ymwelodd mwy na 75,000 o bobl â'r digwyddiadau mawr STEM.

"Bydd yr ariannu ychwanegol hwn yn caniatáu i ni addasu ac adeiladu ar y gwaith sylfaen, a byddwn hefyd yn edrych ar sut y gallwn adeiladu ar ein cydweithrediadau â nifer o sefydliadau eraill i ddatblygu neges STEM glir, gyda'r gobaith o ganlyniadau manteisiol yn y pendraw.  Gallwn hefyd gynnig anogaeth a phartneriaeth â grwpiau eraill sydd wedi'u hysgogi i gynnig am y math hwn o brosiectau.”

Caiff gweithgareddau'r prosiect eu hehangu i gynnwys deuddeg ymweliad â'r brifysgol a/neu cyfleusterau SPECIFIC, gyda chyfartaledd o 30 o ddisgyblion ar bob ymweliad, a 30 o ysgolion, colegau a chlybiau ar ôl ysgol yn derbyn ymweliadau gan lysgenhadon y prosiect.

Bydd Defnyddiau: Byw! yn ceisio meithrin perthnasoedd ystyrlon â dosbarthiadau uwch gyfrannol/safon uwch i roi cyfle iddynt ddefnyddio labordai'r brifysgol, gan ddarparu'r sgiliau a'r adnoddau i gyflawni peth o waith prosiect eu cyrsiau.

Meddai Dr Richard Johnston, Cyfarwyddwr Defnyddiau: Byw!, Uwch-ddarlithydd Gwyddor Defnyddiau a Pheirianneg ym Mhrifysgol Abertawe, a Chymrawd Cyfryngau Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain, "Rydym yn clywed gan blant sydd am fod yn beirianyddon neu weithio mewn argraffu 3D neu drwsio pobl pan fyddant yn hŷn.  Mae'n galonogol gweld plant wedi'u hysbrydoli gan y gwyddoniaeth a pheirianneg bendigedig sy'n cyfoethogi ein bywydau pob dydd."

Bydd gan y tîm Defnyddiau: Byw! hefyd bresenoldeb ym mhafiliwn gwyddoniaeth GwyddonLe yn Eisteddfod yr Urdd, Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd, Gŵyl Gwyddoniaeth Cheltenham (er y'i cynhelir yn Lloegr, ystyrir fel un o'r gwyliau gwyddoniaeth gorau yn y byd, ac eleni bydd ardaloedd ar thema uwch ddefnyddiau) a Big Bang Cymru.

Am y newyddion diweddaraf gan brosiect Defnyddiau: Byw!, ewch i sianel YouTube yr Academi Ddefnyddiau yn http://www.youtube.com/user/MaterialsAcademy, neu dilynwch y prosiect ar Twitter @defnyddiau.