Ysbrydoli Masnacheiddio Arloesedd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe yn helpu i ysbrydoli academyddion i wireddu’u syniadau arloesol drwy gyfrwng ei Rhaglen Pontio Arloesedd lwyddiannus.

Mae rhaglen yr Adran Ymchwil ac Arloesedd Prifysgol Abertawe, a gyllidir gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), yn helpu annog ymchwilwyr academaidd i feddwl ynglyn â masnacholi eu hymchwil a'u syniadau, ac am botensial ac ‘effaith’ eu hymchwil ac yn darparu’r arfau iddynt ddatblygu eu syniadau wrth greu ‘cwmniau sgil-gynhyrchu’, cyflwyno patentau ar gyfer trwyddedu neu ddefnyddio’u hymchwil i’w helpu i yrru effaith economaidd a chymdeithasol ymlaen gyda busnesau a chymunedau.  

Mae gan y cwrs record lwyddiannus ac mae’r rhai a’i fynychodd yn y gorffennol wedi defnyddio’r rhaglen fel sail ar gyfer  lansio cwmniau sgil-gynhyrchu. Yr enghraifft ddiweddara o hyn yw Swansea Polymers Cyf, a sefydlwyd yn gynharach eleni ar ôl cymryd rhan yn y rhaglen 2 flynedd nôl. Mae Bruce Jones a Patrick Woldarski o Swansea Polymers Cyf sy’n gweithio gyda’r prosiect Astute yng Ngholeg Peirianneg Prifysgol Abertawe, wedi creu ‘The Berry Box™’ - cês tryloyw plastig sy’n addas ar gyfer y ‘Raspberry Pi™’, cyfrifiadur newydd maint cerdyn credyd.

Dywedodd Ali Parker, Swyddog Trosglwyddo Gwybodaeth Prifysgol Abertawe, a drefnodd y cwrs: “Mae Pontio Arloesedd yn gam cyntaf tuag at ddatblygu economi gwybodaeth yng Nghymru; ac yn faes allweddol i’r Brifysgol o ran datblygu mentergarwch, cryfhau credadwyedd ymchwil a chreu incwm. 

“Rydym wedi bod yn llwyddiannus wrth ddenu nifer o siaradwyr ardderchog o fyd diwydiant i'r rhaglen, sydd wedi bod trwy'r broses o greu eu cwmnïau eu hunain naill ai tra roedden nhw yn y Brifysgol neu ar ôl graddio, ac sydd wedi darparu mewnwelediad i’w llwyddiant."

Cafodd cwrs diweddar, a gyflwynwyd i grwp dethol o 20 o ymchwilwyr academaidd cyfnod cynnar, ei ganmol fel llwyddiant gan y rhai a’i fynychodd. Cafodd y rhai a fynychodd y fraint o glywed sgwrs gan Simon Gibson OBE. Simon yw Pennaeth Sefydliad Alacrity, elusen a sefydlwyd i yrru entrepreneuriaeth ymlaen, ac mae hefyd yn noddwr Academi Cyflogadwyedd Abertawe a lansiwyd yn ddiweddar ac yn  Brif Swyddog Gweithredol Wesley Clover a sefydlwyd gan Syr Terry Matthews, un o  raddedigion Prifysgol Abertawe.

Dywedodd Chris James o CIOTEK, yr ymgynghoriaeth fusnes a gyflwynodd y rhaglen 4 diwrnod ac sydd wedi bod yn allweddol wrth gyflwyno camau’r broses arloesedd a masnacheiddio:

“Mae yna lefel uchel o fewnbwn a chyfranogiad yn y rhaglen hon ac unwaith eto dangosodd y cyfranogwyr allu aruthrol ymchwilwyr academaidd ym Mhrifysgol Abertawe. Gwelwyd tystiolaeth o hyn yn sgil eu gallu i ddeall yr egwyddorion o droi syniadau’n gyfleoedd masnachol a hynny o fewn rhaglen pedwar diwrnod yn unig."

Daeth y cwrs 4 diwrnod i ben gyda phanel yn arddull rhaglen Dragons Den gydag arbenigwyr yn rhoi adborth ar gynlluniau busnes, fel ymarfer i’r grwp a fydd yn sicr yn ymwneud â chynigion busnes go iawn yn y dyfodol agos!

Mae'r cwrs wedi cael adolygiadau gwych gan y rhai a fu’n ei fynychu eleni .....

• 'Rhaglen ardderchog a fydd yn eich herio i feddwl am syniadau arloesol' - Deya Gonzalez

• ' Rhaglen graff iawn ar greu cyfoeth o arloesedd gyda chyfarwyddiadau manwl a rhyngweithiol er mwyn llwyddo creu arian o syniad. Cwrs i bawb sydd â diddordeb mewn menter' - Zayed Abdullah

Am ragor o wybodaeth am y cwrs, cysylltwch â Ali Parker, Adran Ymchwil ac Arloesedd, Prifysgol Abertawe, Ffôn: 01792 60 2630, e-bost: a.c.parker@swansea.ac.uk.