Ymchwil fel na weloch e erioed o'r blaen - enwau enillwyr cystadleuaeth wedi eu cyhoeddi

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae harddwch ac amrywiaeth ymchwil yn cael eu dathlu'r wythnos hon ym Mhrifysgol Abertawe wrth i enillwyr y gystadleuaeth Ymchwil fel Celf, a ddewiswyd gan banel o arbenigwyr blaenllaw, gael eu henwi mewn seremoni yn y Brifysgol.

Denwyd dros 100 o ddelweddau gan y gystadleuaeth.  Maent yn dod o wahanol feysydd ar draws y Brifysgol, ac maent i gyd wedi'u hysbrydoli gan ymchwil, neu'n ysbrydoli ymchwil.   Casglwyd panel proffil uchel o feirniaid ar gyfer y gystadleuaeth, gydag ystod eang o arbenigedd.

Llongyfarchiadau i’r enillydd, Hollie Rosier, o’r Coleg Peirianneg. 

Mae Dr Richard Johnston yn ddarlithydd yng Ngholeg Peirianneg Prifysgol Abertawe, ac efe sy'n trefnu'r gystadleuaeth. 

Dywedodd: "Y gystadleuaeth hon yw'r unig un o'i math, yn agored i BOB ymchwilydd, gyda phwyslais ar hanes yr ymchwil yn ogystal â'r ddelwedd drawiadol.

"Mae delweddau a haniaethau ysgogol yn ffordd wych o ddangos i'r cyhoedd rhyfeddod yr ymchwil a wneir yn ein Prifysgol. Mae'n gyfle i ymchwilwyr ymgysylltu â phobl, rhannu gwybodaeth â nhw, a'u hysbrydoli. Mae cyfrifoldeb ar ymchwilwyr i sicrhau bod eu hymchwil yn hygyrch... ac yn bendant, mae'r cyhoedd yn frwd i'w weld!"

Trefnir y digwyddiad gan Fforwm Ymchwil Prifysgol Abertawe, ac fe'i cefnogir gan raglen 'Pontio'r Bylchau'.