Tîm o Ysbyty yn Tsieina’n cryfhau eu cysylltiad â'r Coleg Meddygaeth

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd dirprwyaeth o Tsieina’n ymweld â Choleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe'r wythnos hon i helpu dathlu bywyd dyn a sefydlodd un o'r ysbytai hynaf yn Tsieina.

Bydd yr ymwelwyr, o Ysbyty Undeb Hankou, sy'n gysylltiedig â Choleg Meddygol Tongji ym Mhrifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Huazhong, yn ymweld ag Abertawe i ddathlu canmlwyddiant marwolaeth sylfaenydd yr ysbyty, Dr Griffith John, cenhadwr a anwyd yn Abertawe, ac a weithiodd yn Hankou am dros 50 mlynedd. 

Fel rhan o'u hymweliad â'r ddinas, bydd y grŵp, a arweinir gan Dr Guobin Wang, Llywydd Ysbyty Undeb Hankou ac Athro Llawfeddygaeth Gyffredinol, yn ymweld â Phrifysgol Abertawe ddydd Gwener 30 Tachwedd. 

Byddant yn llofnodi Memorandwm Dealltwriaeth gydag Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, Yr Athro Richard B Davies.  Bwriad y Memorandwm yw cryfhau'r cysylltiadau hanesyddol gyda'r Coleg Meddygaeth o ran addysg, ymchwil, a chydweithredu ym meysydd meddygaeth a gofal iechyd. 

Wedyn, cânt daith o gwmpas y Coleg Meddygaeth, y Sefydliad Gwyddor Bywyd, ac Ysbyty Singleton. 

Dywedodd yr Athro Keith Lloyd, Pennaeth y Coleg Meddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe: "Rydym yn croesawu'n cydweithwyr o Tsieina, ac yn gobeithio gweithio'n agos â nhw yn ystod y blynyddoedd nesaf i sefydlu rhaglen hirdymor ar gyfer addysgu a chyfnewid, israddedig ac ôl-raddedig, cyfnewid ysgolheigion, ac ymchwil a gweithdai ar y cyd."