Tîm Farsity Prifysgol Abertawe’n rhwyfo i godi arian

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae carfan Rygbi Prifysgol Abertawe wedi rhwyfo hyd Cymru mewn un diwrnod i godi arian i Ymchwil Canser Macmillan.

Mae’r garfan yn dilyn cynllun hyfforddi llym ar hyn o bryd i baratoi ar gyfer y gêm Farsity yn erbyn eu gwrthwynebwyr o Gaerdydd yn Stadiwm y Mileniwm ar 2il Mai.

Meddai capten y tîm, Richard Smart: “Rydym yn ymarfer o leiaf unwaith y dydd, fel arfer dwywaith y dydd i baratoi ar gyfer y gêm rygbi fawr. Rydym yn treulio llawer o amser gyda’n gilydd ac roeddem am wneud rhywfaint o waith elusennol yn ystod ein paratoadau. Rydym yn gweithio’n galed fel carfan dan arweiniad ei’n hyfforddwyr gwirfoddol.

 “Mae ein hyfforddwyr yn rhoi llawer o’u hamser i’n helpu gyda’n gwaith paratoi ac mae un o’n cyn hyfforddwyr, Danny Cunningham wedi clywed yn ddiweddar bod ganddo fath prin o ganser yr esgyrn. Bu’n rhaid iddo a’i ddarpar wraig symud adref i Awstralia i dderbyn triniaeth ar ôl ymfudo i’r wlad hon. Mae’n ddyn ifanc, hynod o ffit ac ysbrydoledig ac roeddwn ni fel carfan am godi arian i ymchwil canser fel teyrnged i Dan.

 “Felly rydym yn rhwyfo ar gyfer ein cyn hyfforddwr ac rydym am godi arian i Ymchwil Canser Macmillan ac i godi ymwybyddiaeth.”

Varsity sponsored row

Meddai rheolwr y tîm Stuart Clarke, “Roeddem am ddangos ein cefnogaeth i elusen ddewisedig yr hyfforddwr. Mae hi wedi bod yn ymdrech anhygoel gan bawb sydd wedi cefnogi’r achos.”

Meddai’r blaenasgellwr Jonathon Vaughton, “Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at gêm Farsity yr wythnos nesaf. Gwnaethom golli yn erbyn Caerdydd yn ddiweddar felly mae arnom un fawr iddyn nhw – a dyma’r un sy’n cyfri!”

Roedd rhwyfo hyd Cymru mewn un diwrnod yn bell dros 300km. Ychwanegodd Richard, “Er bod pothelli gyda ni ar ein traed a’n dwylo nid yw wedi’n hatal rhag ymarfer.”

Mae Gêm Farsity Cymru yn gêm rygbi flynyddol rhwng Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd a bydd yn cael ei chwarae yn Stadiwm y Mileniwm ar Mai 2il (y gig gyntaf am 19.35) yn fyw ar S4C. Llynedd, daeth dros 15,000 o gefnogwyr i wylio’r hyn a oedd yn gêm gyflym ac agored.

Am ragor o wybodaeth am ddigwyddiad Faristy Cymru, canlyniadau blaenorol a gwybodaeth am frwydr danbaid eleni ewch i http://www.welshvarsity.com

Gellir dod o hyd i wybodaeth am Glwb Rygbi Prifysgol Abertawe yn http://www.pitchero.com/clubs/swanseauniversityrfc