“Sut i gael Mynediad i Ariannu Ewropeaidd”

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Sesiwn Cyngor ac Arweiniad yr Adran Ymchwil ac Arloesi

Dyddiad: Dydd Iau Tachwedd 29ain 2012

Amser: 8.00am - 10.15am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Abaty Singleton, Prifysgol Abertawe

Agenda:

8.00am  -   Cofrestru a brecwast

8.45am  -   Cyflwyniad i gynlluniau ariannu Ewropeaidd [ FP7 a Horizon 2020]

9.15 - 10.00am – Astudiaethau Achos gan fusnesau llwyddiannus sy’n rhan o brosiectau FP7

10.00 - 10.15am – Sut y gall Rhwydwaith Menter Ewrop yng Nghymru helpu eich busnes?

10.15 - 10.30am – Sesiwn Holi ac Ateb

10.30 – 11.00am – Rhwydweithio a chloi.

Siaradwyr Gwadd: Nick Tune (Cyfarwyddwr Building Research Establishment) ac Iain Elder (Prif Swyddog Gweithredol Pulse Medical Technologies)

Siaradwyr Prifysgol Abertawe: Dr Gerry Ronan (Pennaeth Masnacheiddio Eiddo Deallusol), Chris Talbot (Rheolwr y Rhaglen) and Julie Williams (Uwch Swyddog Ariannu Allanol) .

Beth yw’r Rhwydwaith Menter Ewrop yng Nghymru?

Mae Rhwydwaith Menter Ewrop yn darparu cyngor ac arweiniad proffesiynol am ddim ar ddatblygu cyfleoedd masnachu rhyngwladol, arloesi a chydweithio ym maes ymchwil a datblygu gyda busnesau, sefydliadau a phrifysgolion mewn dros 51 o wledydd. Mae hwn yn rhwydwaith sy’n tyfu gyda dros 600 o bartneriaid a soniwyd amdano fel ‘y rhwydwaith mwyaf ar gyfer mentrau yn y Byd’.