Prifysgol Abertawe yn Rhoi Pwyslais ar Bynciau Gwyddonol Cyfrwng Cymraeg

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Nos Fercher, 21ain Tachwedd 2012, bydd Prifysgol Abertawe yn ceisio cynyddu’r diddordeb sy’n bodoli ym maes gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bwriad ‘Brwdfrydedd Heintus’ a gynhelir yn Sefydliad Gwyddor Bywyd y Brifysgol am 7yh, fydd ceisio ennyn diddordeb myfyrwyr, disgyblion chweched dosbarth ac aelodau o’r cyhoedd mewn pynciau gwyddonol.

Diolch i gyllid gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, dyma’r digwyddiad cyntaf o’i fath a’r gobaith yw ceisio cynnal noson gyffelyb ar raddfa flynyddol yn y dyfodol.

Bydd cyfres o sesiynau a chyflwyniadau yn cael eu cynnal er mwyn ysgogi trafodaeth ar bynciau gwyddonol megis y diciâu a phwysigrwydd bacteria yn ein bywyd bob dydd.

Yn ystod y noson, bydd fforwm ymchwil cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe yn cael ei lansio yn swyddogol. Bwriad y fforwm yw cynnal cyfres o seminarau gwyddonol trwy gyfrwng y Gymraeg ar gampws y Brifysgol.  

Yn ôl Dr Angharad Davies, Uwch Ddarlithydd Microbioleg yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Abertawe: ‘‘Hoffwn ddiolch i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am ein galluogi i gynnal y digwyddiad ac rwy’n mawr obeithio y bydd yn datblygu i fod yn achlysur rheolaidd yng nghalendr y Brifysgol. Buaswn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes i fynychu er mwyn cael eu hysbrydoli gan y trafodaethau yn ogystal â’r ymchwil a wneir ym Mhrifysgol Abertawe.’’

Cysylltwch â Dr Angharad Davies am fwy o wybodaeth ar 01792 295034 neu Angharad.P.Davies@abertawe.ac.uk