Prifysgol Abertawe yn dymuno denu tiwtoriaid Cymraeg newydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion De-Orllewin Cymru yn chwilio am unigolion newydd i ymuno â’r maes dysgu Cymraeg i oedolion.

Cynhelir hyfforddiant rhagarweiniol i’r rhai hynny sydd â diddordeb yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe rhwng 15-16 Mehefin 2012.

Bydd cwrs arall i ddilyn fis Medi a bydd cyfle i bob unigolyn fynychu cwrs Cymhwyster Cenedlaethol Dysgu Cymraeg i Oedolion.

Rhian Haf

Mae’r Ganolfan yn dymuno penodi tiwtoriaid profiadol sydd â’r gallu i ddysgu ar unrhyw lefel yn ogystal â thiwtoriaid newydd sydd eisiau dechrau dysgu. Darperir hyfforddiant pwrpasol a thrylwyr, a bydd y cyfan yn rhad ac am ddim.

Meddai Rhian Haf Bevan, tiwtor presennol gyda Chanolfan Cymraeg i Oedolion De-Orllewin Cymru: ‘‘Hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes i fynychu’r cwrs gan y bydd yn eu darparu â chyfle gwych i gyfrannu at y broses o gynhyrchu mwy o siaradwyr Cymraeg yn Ne-Orllewin Cymru.’’

Am fwy o wybodaeth am yr hyfforddiant rhagarweiniol cysylltwch â Chris Reynolds ar c.j.reynolds@abertawe.ac.uk neu 01792 602641.