Prifysgol Abertawe'n ymuno â 'Dosbarth Meistr' yr UE

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe wedi curo cystadleuaeth frwd o ar draws Ewrop i ennill ariannu gan yr UE ar gyfer dwy raglen ryngwladol freintiedig i ôl-raddedigion.

Mae'r MSc Erasmus Mundus mewn Mecaneg Gyfrifiadurol (MCM) a'r PhD Erasmus Mundus mewn Mecaneg Gyfrifiadurol (SEED) wedi'u dethol ar gyfer ariannu gan y Comisiwn Ewropeaidd. Roedd y rhaglen MSc mewn Mecaneg Gyfrifiadurol yn un o 30 cynnig yn unig allan o 177 a gafodd eu dewis. Roedd y rhaglen PhD mewn Mecaneg Gyfrifiadurol yn un o 9 cynnig yn unig allan o 133 a gafodd eu dewis. 

Bydd pum carfan (tan oddeutu 2020) o fyfyrwyr MSc a PhD o'r ansawdd gorau posib yn cael eu dewis ac yn derbyn ysgoloriaethau'r UE i gynnal ymchwil ym maes mecaneg gyfrifiadurol. Mae'r rhaglenni wedi'u sefydlu o amgylch consortiwm o Brifysgolion Ewropeaidd uchel eu parch y mae gan Brifysgol Abertawe rôl flaenllaw yn eu plith oherwydd rhagoriaeth ymchwil ryngwladol y Ganolfan Peirianneg Sifil a Chyfrifiadurol yn y Coleg Peirianneg.

Mae'r rhaglen Erasmus Mundus yn ceisio gwella ansawdd addysg uwch ac yn ceisio hyrwyddo cyfathrebu a dealltwriaeth rhwng pobl a diwylliannau drwy symudedd a chydweithio academaidd. Mae'r rhaglen yn darparu cymorth i sefydliadau addysg uwch,myfyrwyr unigol, ymchwilwyr a staff prifysgolneu unrhyw sefydliad sy'n weithgar ym maes addysg uwch.  

Meddai Dr Antonio Gil, Uwch-ddarlithydd a Chydlynydd Erasmus Mundus yn y Ganolfan Peirianneg Sifil a Chyfrifiadurol ym Mhrifysgol Abertawe: "Rydym wrth ein bodd gyda'r newyddion bod y ddwy raglen hyn wedi derbyn ariannu. Mae'r rhaglen yn pwysleisio arbenigedd y Brifysgol mewn Mecaneg Gyfrifiadurol, y cysylltiadau gyda phrifysgolion Ewropeaidd o ansawdd uchel ac atyniad y rhaglenni i fyfyrwyr yn rhyngwladol. Maen nhw ar ben uchaf y sbectrwm ar gyfer rhaglenni ôl-raddedig rhyngwladol yn Ewrop. Ni all pethau fod yn well!"

Meddai Dhrubajyoti Mukherjee a raddiodd o Brifysgol Abertawe, ac a astudiodd ar gwrs Meistr Erasmus Mundus gan ennill ei MSc mewn Mecaneg Gyfrifiadurol:  "Mae'r cwrs a gynigir ym Mhrifysgol Abertawe'n un arbenigol a oedd yn cyd-fynd â'm hanghenion i'r dim ac mae'r Coleg Peirianneg yn llawn academyddion sy'n arbenigwyr blaenllaw yn y maes hwn. Gwnaeth fy nghwrs para dwy flynedd. Roedd y flwyddyn gyntaf yn cynnwys dilyn 12 modiwl ac yn yr ail flwyddyn bu'n rhaid i mi gwblhau fy ngwaith thesis a'm hinterniaeth mewn cwmni lle y dysgais am arferion gwahanol yn y Diwydiant a'r defnydd o feddalwedd fasnachol.

Rydw i wedi derbyn cynigion ar gyfer cyfleoedd PhD gan nifer o brifysgolion uchel eu parch yn y DU ac yn America. Mae enw da'r Coleg Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe yn fy maes ymchwil yn sicr wedi chwarae rôl bwysig wrth sicrhau'r cyfleoedd hyn."

The Erasmus Mundus logo