Prifysgol Abertawe’n derbyn cyllid DU i ddatblygu syniadau ymchwil a chreu cyfleoedd busnes

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Croesawodd Prifysgol Abertawe’r newyddion heddiw y bydd yn derbyn dros hanner miliwn o bunnoedd gan lywodraeth y DU i ddatblygu ei rhaglen ymchwil, cydweithio ac entrepreneuriaeth arloesol.

Cyhoeddwyd y cyllid, sy’n dod o Gyfrifon Cyflymu Effaith (IAA) y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), gan yr Ysgrifennydd Busnes Vince Cable yn ystod Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang.

Mae’r cyfanswm o £60m o fuddsoddiad ym Mhrifysgolion y DU yn helpu gwyddonwyr a pheirianwyr arloesol i greu busnesau llwyddiannus o’u hymchwil, i wella cydweithrediadau â diwydiant ac i feithrin gwell entrepreneuriaeth. Mae’r dyfarniadau wedi’u dyrannu i 31 o brifysgolion blaenllaw ar draws y DU, gyda Phrifysgol Abertawe yn un o ddwy brifysgol yn unig yng Nghymru i dderbyn cyllid.

Bydd y dyfarniad o £637,927 yn galluogi’r Brifysgol i flaenoriaethu meysydd ymchwil sy’n cynnwys iechyd, ynni, gweithgynhyrchu, cyfrifiadureg, datblygu technegol, a disgyblaethau perthynol. 

Y tri maes sydd wedi’u targedu am ran o’r cyllid yw Peirianneg Defnyddiau, Rhyngweithio Dyn a Chyfrifiadur (Techealth) a’r Ganolfan Nanoiechyd sy’n cynnwys prosiectau ar draws Peirianneg, Gwyddoniaeth a Meddygaeth. Yn ogystal, bydd cyllid ar gael gan y dyfarniad i gefnogi adnodd canolog, a fydd yn gweinyddu ac yn monitro’r cyfrif ac yn cydlynu ystod o weithgareddau, digwyddiadau a mentrau sy’n cyd-fynd â phortffolio EPSRC y Brifysgol. 

Wrth groesawu’r cyhoeddiad, meddai’r Athro Ian Cluckie, Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Ymchwil: “Rydym wrth ein bodd bod Prifysgol Abertawe wedi’i chydnabod gan EPSRC fel un o brifysgolion blaenllaw’r DU ar gyfer ymchwil mewn peirianneg a’r gwyddorau ffisegol. Mae ymchwil a gefnogir gan ESPRC wedi’i chydnabod yn eithriadol ar y llwyfan rhyngwladol.

“Bydd y cyllid yn cefnogi ein gwyddonwyr a’n peirianwyr ac yn eu helpu i ddatblygu prosiectau gan weithio’n fwy â diwydiant, i bontio’r bwlch rhwng y labordy ar farchnad ac i ddod â syniadau ymchwil i lwyfan lle y gallai cwmni neu gyfalafwr menter ddangos diddordeb. Bydd hefyd yn ein helpu i ariannu secondiadau o ddiwydiant ac i mewn i ddiwydiant i ehangu ein cyswllt â phartneriaid ymchwil diwydiannol, gan wella gwybodaeth a sgiliau.

“Mae’r tair thema ymchwil graidd yr ydym wedi’u hadnabod yn cynrychioli meysydd o gryfder sylweddol presennol yn y Brifysgol yn ogystal â chryfder sy’n datblygu. Bydd y dyfarniad IAA yn cael ei ddefnyddio i adeiladu ar y cryfderau hyn ac i harneisio’r gwir botensial i greu effaith sylweddol drwy ymgysylltu a dargedir gyda diwydiant a gweithgareddau ariannu penodol a fydd yn cynhyrchu canlyniadau ymchwil pendant y gellir eu defnyddio’n gyflym.”