Podlediad Planet Earth NERC: “Forecasting solar storms, fish personalities”

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Dr Andrew King o Goleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe yn cymryd rhan mewn podlediad newydd ar wefan newyddion ymchwil Planet Earth Online.

Dr Andrew King

Mae’r podlediad, o’r enw “Forecasting solar storms, fish personalities”, yn trafod pam fod rhagfynegi stormydd haul yn gynyddol bwysig, a pham y gallai deall sut mae pysgod yn heigio fod o ddiddordeb i economegwyr.

Yn ei gyfweliad yn ail hanner y podlediad, mae Dr King, ecolegydd ymddygiadol sy’n arwain grŵp ymchwil SHOAL (Cymdeithasoldeb, Heterogenedd, Trefn ac Arweiniad) ym Mhrifysgol Abertawe, yn siarad am ei ymchwil wedi’i ariannu gan NERC ar amrywiaeth grŵp a chyd-berfformiad heigiau o bysgod.

I wrando ar y podlediad a darllen yr erthygl sy’n cyd-fynd ag ef ar Planet Earth Online, ewch i http://planetearth.nerc.ac.uk/multimedia/story.aspx?id=1290.

Cymerodd Dr King ran yn y cyfweliad podlediad yn ei swyddogaeth flaenorol yn y Coleg Milfeddygol Brenhinol (http://www.rvc.ac.uk/) yn Llundain, cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe yn ddiweddar. Mae wedi dod â’r Gymrodoriaeth Ymchwil gan NERC i’r Brifysgol gydag ef, ac mae bellach yn darlithio yn y Coleg Gwyddoniaeth.

Mae rhagor o wybodaeth am ymchwil Dr King i’w gweld ar www.SHOALgroup.org. I gael diweddariadau dilynwch @SHOALgroup ar Twitter neu darllenwch ei flog yn https://sites.google.com/site/andrewjkingresearch/science-communication/blog.