Personality change as a result of brain injury

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae’r Athro Rodger Woods o Adran Seicoleg Prifysgol Abertawe yn arbenigwr rhyngwladol ar anafiadau i’r ymennydd a bydd yn cynnal darlith ar adfer yn dilyn anaf trawmatig i’r ymennydd (TBI) sy’n un o brif achosion anabledd hirdymor mewn gwledydd diwydiannol a gwledydd datblygol ar draws y byd.

Teitl: “Personality change as a result of brain injury.” 

Siaradwr: Yr Athro Rodger Woods

Dyddiad: Dydd Mercher 14 Mawrth

Amser: 7pm – 9pm

Lleoliad:Darlithfa Faraday, Prifysgol Abertawe

Mynediad: Am ddim ac yn agored i’r cyhoedd

Noder y bydd y ddarlith yn cael ei thraddodi truy gyfrwng y Saesneg.

 

Crynodeb hirach o’r digwyddiad

Mae aflonyddu rheolaeth emosiynol ac ymddygiad yn rhai o’r agweddau mwyaf gwanychol o safbwynt anafiadau i’r ymennydd ac yn aml yn peri newidiadau mewn cymeriad neu bersonoliaeth unigolyn.

Mae aelodau teulu yn aml yn dweud mai newidiadau mewn personoliaeth sy’n achosi’r straen a’r baich mwyaf wrth ofalu am y rhai hynny sydd wedi dioddef trawma i’r pen.  

Bydd yr Athro Woods yn esbonio natur anhwylderau ymddygiad a phersonoliaeth yn dilyn anafiadau trawmatig i’r ymennydd ac yn eu cysylltu â gwahanol batrymau o anafiadau i’r ymennydd sy’n gysylltiedig â thrawma i’r pen. 

Manylion Cyswllt: Am ragor o wybodaeth neu i gadw lle ar y ddarlith, cysylltwch â Jackie Scholz 01792 295278.