Penodi Cyfarwyddwr Newydd i Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Jane Thomas, sydd ar hyn o bryd yn Ddirprwy Bennaeth Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, wedi’i phenodi’n Gyfarwyddwr newydd Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe.

Mae gan Jane gyfoeth o brofiad ac arbenigedd mewn perthynas â Dysgu ac Addysgu, ac yn ddiweddar enillodd Gymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol glodwiw gan yr Academi Addysg Uwch (AAU). Bu Jane hefyd yn ymwneud ers amser hir â chyrff proffesiynol ac addysgeg ym maes gwyddor iechyd a disgyblaethau cysylltiedig. Mae Jane wedi cael llwyddiant sylweddol mewn denu prosiectau a chyllid AAU i’r sefydliad ac mae wedi datblygu cysylltiadau allanol gyda’r AAU a sefydliadau eraill.

Mae Jane yn dod â chyfoeth o wasanaeth proffesiynol a phrofiad ymarferol i’w haddysgu. Mae ei gyrfa addysgu’n rhychwantu dros 25 mlynedd, ers ymuno â’r Ysgol Iechyd fel darlithydd gofal cymunedol bu ganddi rolau’n cynnwys dysgu ymarfer yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, rheoli ymarfer ar gyfer nyrsio oedolion, a Chyfarwyddwr Ansawdd.  Bydd Jane yn parhau yn Ddirprwy Bennaeth Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ar sail ran-amser, lle bydd hi’n rheoli’r cylch gwaith dysgu ac addysgu, yn ogystal â bod yn Gyfarwyddwr ADAA.

Mae Jane hefyd wedi arwain nifer o brosiectau ar draws y sefydliad ac yn dod â phrofiad rheoli ac arwain sylweddol i’r rôl, wedi bod yn Uwch-arolygydd Asesu’r Brifysgol, yn aelod o’r Pwyllgor Dysgu ac Addysgu, yn ogystal â bod yn aelod o Fwrdd Rheoli’r Brifysgol, y Senedd a’r Cyngor.

Bydd Jane yn arwain ei seminar ADAA gyntaf o’r enw Enhancing learning by valuing teachingar y 12eg o Ragfyr am 1pm yng Nghaffi’r Gorllewin. Bydd y seminar hon yn ymdrin â sut yr ydym yn gwerthfawrogi, yn datblygu ac yn gwobrwyo athrawon ar draws y brifysgol ac ar draws y sector AU ar y cyfan. Yn ystod y seminar byddwn hefyd yn lansio’r llwybrau gyrfa newydd sy’n cydnabod rôl dysgu ac addysgu, ymhlith meysydd eraill, mewn dyrchafu a chydnabod staff.