Noson o Farddoniaeth

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Sefydlwyd y Rhaglen Darlithoedd Cyhoeddus Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, dros naw mlynedd yn ôl gan y Parchedig Nigel John, Uwch Gaplan ym Mhrifysgol Abertawe.

Erbyn diwedd y flwyddyn academaidd bresennol bydd cyfanswm o 70 o ddarlithoedd wedi’u cynnal gyda 68 o siaradwyr gwahanol. Yn ystod y cyfnod hwn mae arweinwyr Eglwysi o fri rhyngwladol ac academyddion sy’n adnabyddus yn fyd-eang wedi siarad ar ystod eang o wahanol destunau. 

Teitl: Noson o Farddoniaeth

Siaradwr: Micheal O’Siadhail

Dyddiad: Dydd Mawrth 27 Mawrth

Amser: 7.30 pm

Lleoliad: Darlithfa James Callaghan, Adeilad James Callaghan, Prifysgol Abertawe

Mynediad: Mynediad am ddim, croeso i bawb

Crynodeb hirach o’r digwyddiad: Bydd y digwyddiad yn cynnwys darlleniadau barddoniaeth gan Micheal O’Siadhail, bardd arobryn o Iwerddon sy’n gydnabyddedig yn rhyngwladol ac yn gyn Athro yn Sefydliad Astudiaethau Uwch Dulyn.

Manylion cyswllt: Am ragor o fanylion ynglyn â’r Ddarlith Gyhoeddus Ddiwinyddiaeth hon, cysylltwch â’r Parchedig Nigel John, Ffôn: 01792 205678, Estyniad: 4442.

Mae’r eitem newyddion hon wedi’i phostio gan Delyth Purchase, Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus Prifysgol Abertawe, Ffôn: 01792 295050, neu e-bost: d.purchase@abertawe.ac.uk