Nofwyr Prifysgol Abertawe yn rhagori yn y pencampwriaethau Prydeinig

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Perfformiodd nofwyr Prifysgol Abertawe lawer yn well na'r disgwyl y penwythnos diwethaf ym mhencampwriaethau Chwaraeon Cwrs Hir Prifysgolion a Cholegau Prydain yn Sheffield gan guro perfformiadau gorau oes, a thymor ac ennill medalau lu.

Ar ôl gorffen ymhlith y 3 uchaf yn y gystadleuaeth gyfatebol cwrs byr ym mis Tachwedd roedd hi’n mynd i fod yn anodd i gyrraedd y fath safon eto gyda chynifer o'r tîm ag un llygad ar y darlun ehangach. Mae cymaint â 10 o'r 20 o nofwyr wedi gosod eu golygon ar Ganolfan Gweithgareddau Dwr Llundain a threialon Olympaidd 2012 sydd bellach lai na thair wythnos i ffwrdd.

Dechreuodd y perfformiadau nodedig yn syth ar y nos Wener gyda Chris Suggitt yn y ras 1500m dull rhydd i ddynion yn gorffen ychydig yn arafach na’i amser gorffwys gorau gan gipio’r fedal arian yn y fargen.

Cafwyd perfformiadau hyd yn oed yn fwy trawiadol ar y Dydd Sadwrn a medalau i Libby Mitchell yn y ras pili pala 100m (Arian), Emma Smithhurst yn y ras dulliau cymysg 400m (Arian), Chris Suggitt yn y ras dulliau cymysg 400m i ddynion (Efydd), Adam Mallett yn y ras pili pala 100m i ddynion (Efydd) ac ar ben y cyfan fe gipiodd tîm 4x100 dull rhydd merched fedal efydd.

Ar y Dydd Sul, gwelwyd perfformiadau hyd yn oed yn well a hynny dair wythnos cyn y Treialon Olympaidd. Cipiodd Abertawe fedalau yn sgil perfformiadau Chris Suggitt yn y ras gymysg unigol 200m (Efydd), Libby Mitchell ac Alys Thomas (Arian ac Efydd) yn y ras pili pala 200m, gyda'r ddau dîm dull rhydd 4x100m yn cipio’r 2 fedal ddiwethaf ar gyfer casgliad Abertawe

Ar ddiwedd y cystadlu, dim ond 9 pwynt oedd rhwng Abertawe a Phrifysgol Caerfaddon ddaeth yn 2il. At ei gilydd, roedd yn benwythnos rhagorol o waith gan y tîm cyfan. Roedd 2 aelod o dîm rhyngwladol y DU yn eisiau o’r tîm, ond fe safodd pawb yn y blwch pan ddaeth yr alwad.  

 

Canlyniadau

1af Loughborough 365

2il Caerfaddon       226

3ydd Abertawe       217

4ydd Caeredin       199

5ed Stirling             178

 

Prifysgolion eraill Cymru

14eg Caerdydd         38

19eg UWIC               23

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Janis Pickwick, Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus Prifysgol Abertawe, Ffôn: 01792 513245, neu e-bostiwch: j.m.pickwick@swansea.ac.uk