Newid Hinsawdd: Ymchwilwyr yn Adrodd newidiadau dramatig ym mioleg Gogledd yr Iwerydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ymchwil newydd i achos gordyfiant o algae niweidiol yng Nghefnfor y Gogledd Iwerydd a Môr y Gogledd wedi’i chyhoeddi (dydd Sul, Chwefror 12, 2012) mewn cylchgrawn blaenllaw Nature Climate Change, gan dîm sy’n cynnwys gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe.

Continuous Plankton Recorder being deployed Meddai un o awduron y papur, yr Athro Graeme Hays o’r Adran Biowyddoniaeth yng Ngholeg Gwyddoniaeth Abertawe: “Dychmygwch edrych yn eich gardd un bore a darganfod bod y gwair i gyd wedi diflannu yn sydyn a bod llwyni wedi tyfu yn ei le.   

“Gall hyn swnio’n annhebygol, ond rydym wedi dod o hyd i newidiadau ar y raddfa hon ym mioleg Gogledd yr Iwerydd, gyda newid dramatig yng nghyffredinrwydd dinofflangellogion i  ddiatomau - dau grwp sy’n cynnwys sawl un o’r planhigion planctonig microsgopig sy’n ffurfio sylfaen cadwyn fwyd y môr.”

Mae canfyddiadau’r Athro Hays a’i gydweithwyr Biowyddoniaeth y myfyrwyr PhD Stephanie Hinder ac Emily Roberts; Yr Athro Mike Gravenor o Sefydliad Gwyddor Bywyd yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Abertawe; a Dr Tony Walne a Dr Martin Edwards o Sefydliad Syr Alister Hardy ar gyfer Gwyddor y Môr, Plymouth, wedi dangos bod y newid hwn o ddinofflangellogion i  ddiatomau wedi’i yrru’n rhannol gan gynnydd mewn tymheredd y môr, sy’n agwedd o gynhesu byd-eang yr ydym yn hen gyfarwydd â hi.

algae1 Ond yn fwy annisgwyl oedd canfyddiad y tîm bod y newid mewn plancton hefyd wedi’i yrru’n gryf gan gynnydd mewn gwyntogrwydd yn rhanbarth Gogledd yr Iwerydd dros y 50 mlynedd diwethaf.

“Mae’r cynnydd hwn mewn gwyntogrwydd yn rhywbeth sy’n cael ei esgeuluso’n aml,” meddai’r Athro Hays. “Yn y môr, mae gwyntoedd yn achosi’r dwr i gymysgu’n fertigol, sydd yn ei dro’n effeithio’n fawr ar lefelau maetholion yr arwyneb a’r modd y caiff plancton ei ddosbarthu’n fertigol.

Algae2 “Yn gyffredinol, mae tywydd sy’n fwy gwyntog yn dueddol o ffafrio diatomau dros dinofflangellogion. Mae’r patrymau newydd yn dangos newid mawr yn nosbarthiad rhywogaethau economaidd bwysig y gwn fod ganddynt effaith niweidiol drwy docsinau gwenwynig.  

“Nid yw goblygiadau ehangach y canfyddiad hwn yn hysbys, ond mae’n debyg bod y newid o  ddinofflangellogion i  ddiatomau wedi lledaenu ar hyd y gadwyn fwyd i effeithio ar anifeiliaid llawer mwy eu maint megis pysgod a morfilod.”


Bydd papur y tîm, “Changes in marine dinoflagellate and diatom abundance under climate change”, yn cael ei gyhoeddi ar-lein (dydd Sul, Chwefror 12) yn y cylchgrawn blaenllaw Nature Climate Change. Ewch i http://www.nature.com/nclimate.

Cefnogwyd gwaith y tîm ymchwil gan Gonsortiwm Newid Hinsawdd Cymru (C3W, http://www.climatechangewales.ac.uk/), a thrwy grant hyfforddi doethurol gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC, http://www.nerc.ac.uk/).


Lluniau: Trwy garedigrwydd Sefydliad Syr Alister Hardy ar gyfer Gwyddor y Môr, Plymouth.

Llun 1 – Y tîm yn defnyddio’r offer casglu samplau, y Cofnodydd Plancton Parhaus (CPR), ym Môr y Gogledd.

Lluniau 2, 3 – Enghreifftiau o algae – eucampia zodiacus a Chaetoceros decipiens – a samplwyd gan y tîm.