Myfyrwraig Prifysgol Abertawe ar Restr Fer Gwobr Fawreddog

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae myfyrwraig PhD o Brifysgol Abertawe wedi’i chynnwys ar restr fer Gwobr Impress Prydain Fawr i awduron newydd gyda’i nofel ‘What The Dead Want.’

Mae Michaela Kahn, sy’n dod o Los Angeles yn wreiddiol, yn astudio Ysgrifennu Creadigol yn y Brifysgol. Ar ôl astudio gradd meistr ym Mhrifysgol Naropa, Colorado, dewisiodd barhau â’i hastudiaethau yn Abertawe wedi iddi gael ei phlesio gan lyfrau a ysgrifennwyd gan yr Athro Stevie Davies, aelod o staff academaidd yr Adran Ysgrifennu Greadigol.

Michaela1

Mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn llwyddiannus yn y gystadleuaeth hon yn y gorffennol. Cafodd dau fyfyriwr eu cynnwys ar y rhestr fer yn 2010 a 2011 ac mi wnaeth Roshi Fernando ennill y wobr yn 2009 gyda Homesick, cyfres o straeon byrion am gymuned o fewnfudwyr o Sri Lanka i Lundain.

Meddai Michaela Kahn: ‘‘Mae dilyn ôl troed y myfyrwyr eraill trwy gael fy nghynnwys ar restr fer y wobr yn anrhydedd arbennig. Mae myfyrwyr o Adran Ysgrifennu Greadigol Prifysgol Abertawe wedi’u cynnwys ar y rhestr ers 2009 sy’n pwysleisio ansawdd y tîm ysgrifennu creadigol yn ogystal ag ethos y rhaglen yn gyffredinol.’’

Ychwanegodd Nigel Jenkins, Cyfarwyddwr Adran Ysgrifennu Greadigol Prifysgol Abertawe: ‘‘Mae cael Michaela Kahn yn fyfyrwraig PhD yn bleser pur. Rydym yn falch ei bod yn ymuno â rhes o fyfyrwyr ôl raddedig y Brifysgol sydd wedi’u cynnwys ar y rhestr yn y gorffennol. Bydd rhaid aros i glywed y canlyniad, ond rwy’n gwbl argyhoeddedig bod ganddi yrfa ddisglair o’i blaen.’’

Dyma’r chweched tro i’r gystadleuaeth hon gael ei chynnal a’r gobaith yw darganfod talent newydd yn y maes. Bydd yr enillydd yn derbyn cytundeb cyhoeddi ac yn cael ei gyhoeddi gan banel o feirniaid fis nesaf.