Mapping: underpinning the World's decision-making

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Darlith Flynyddol Mike Barnsley yn dathlu bywyd y diweddar Athro Mike Barnsley, cyn Bennaeth Ysgol yr Amgylchedd a chyn ddirpwy Is Ganghellor Prifysgol Abertawe. Bydd y ddarlith yn dathlu ei ddealltwriaeth o newid hinsawdd a’i gyfraniad i’r Brifysgol.

Teitl: Mapping: underpinning the World's decision-making

Siaradwr: Dr Vanessa Lawrence CB, Cyfarwyddwr Cyffredinol a Phrif Weithredwr Arolwg Ordnans

Dyddiad: Dydd Iau 1af Tachwedd 2012

Amser: 6.30yh

Lleoliad:  Darlithfa Faraday, Prifysgol Abertawe

Mynediad: Am ddim a chroeso i bawb

Arall: Cynhelir derbyniad ar ben y grisiau yn Adeilad Wallace o 5.30yh

Gwybodaeth am y siaradwr:

Bydd y ddarlith gan yr arbenigwraig fyd eang a Chyfarwyddwr Cyffredinol a Phrif Weithredwr Arolwg Ordnans yn addas ar gyfer cynulleidfa eang a rhyngddisgyblaethol.

Vanessa Lawrence oedd y fenyw gyntaf i gael ei phenodi yn Brif Weithredwr yr asiantaeth fapio genedlaethol. Hi oedd un o’r Cyfarwyddwyr Cyffredinol ieuengaf i gael ei phenodi dros 220 mlynedd yn hanes yr asiantaeth.

Mae hi’n arbenigo mewn systemau gwybodaeth ddaearyddol a sut y gallant wella’r broses o wneud penderfyniadau ar lefel lywodraethol a busnes. Mae Vanessa yn gynghorydd i Lywodraeth Prydain ar strategaethau mapio, arolwg a gwybodaeth ddaearyddol. 

Cyswllt:

Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01792 295059 neu ebostiwch l.glover@swansea.ac.uk