Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.
Mae ardal Sandfields Abertawe yn hen gymuned, ond hefyd yn gartref i sawl person sy’n newydd i’r ddinas. Mae Cae’r Vetch – lle y bu Clwb Pêl-droed Abertawe yn chwarae tan 2005 – yng nghalon y gymuned.
Mae’r artist Owen Griffiths, gan weithio â phreswylwyr lleol, wedi troi cae’r Vetch nad oedd neb yn ei ddefnyddio yn iwtopia ddinesig. Mae gan breswylwyr le i dyfu eu llysiau a chynnyrch eraill am ddim.
Mae Prifysgol Abertawe a Chanolfan y Celfyddydau Taliesin yn Bartneriaid yn y prosiect.
Mae’r prosiect yn cael ei rhedeg gan ADAIN AVION, sef comisiwn “Artistiaid yn arwain y ffordd” Cymru. Mae wedi’i ariannu gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, mae’n rhan o Wyl Llundain 2012 a’r Olympiad Diwylliannol.
- Dydd Mercher 23 Mai 2012 18.00 BST
- Dydd Mawrth 10 Medi 2019 12.58 BST
- Swyddfa Materion Cyhoeddus