Hwyl Wyddonol Prifwyl yr Urdd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd darpariaeth Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe ar ei gorau yn Eisteddfod yr Urdd 2012, a hynny ym mhabell GwyddonLe ar y maes. Y naturiaethwr sydd wedi teithio’r byd, Iolo Williams fydd yn agor y babell yn swyddogol fore heddiw, dydd Llun 4 Mehefin, am 11:00 y bore.

I ddilyn, bydd Iolo Williams yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ag ateb gyda’r cyflwynydd teledu a chyn-fyfyrwraig Prifysgol Abertawe, Nia Parry heddiw am 11:15 y bore.

Bydd y cyn bêl droediwr proffesiynol sydd wedi ennill amryw o gapiau dros Gymru, Malcolm Allen yn galw mewn i wobrwyo’r gystadleuaeth fathemategol genedlaethol ddydd Iau, 7 Mehefin am 12:30 y prynhawn hefyd.

Bydd cerbyd Bloodhound yn GwyddonLe eleni, a hynny o ddydd Mercher 6 Mehefin ymlaen. Bloodhound yw’r cerbyd enwog sy’n gobeithio torri’r record byd ar gyfer cyflymder tir a chyrraedd 1,000 milltir yr awr yn 2013.

Mae ymchwilwyr o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe wedi cyfrannu at ddyluniad aerodynameg Bloodhound a bydd fideo yn olrhain hanes y cynllun i’w weld gydol yr wythnos hefyd.

Bydd arbenigwyr yn y maes o Brifysgol Abertawe a thu hwnt yn dod ynghyd i ddarparu gwledd o wyddoniaeth i ymwelwyr â’r Eisteddfod ar stad Glynllifon yr wythnos hon.

Yn ôl Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd: “Caiff GwyddonLe ei ystyried yn un o atyniadau blaenllaw'r wyl a bydd gweithgareddau rhyngweithiol o bob math yn cael eu cynnal yno gydol yr wythnos, ar y thema ‘Byd Egnïol.’  Rydym fel mudiad yn hynod ddiolchgar i Brifysgol Abertawe am eu cefnogaeth gyson a’u harweiniad gwych ym maes gwyddoniaeth ar y maes.  Maent yn dod â’u harbenigedd, ac yn cynnig arlwy flaengar i blant a phobl ifanc sy’n dod draw i fwynhau yn y brifwyl.”

Bydd staff academaidd a myfyrwyr ôl-raddedig o Adrannau Peirianneg, Ffiseg, Biowyddorau, Mathemateg, Daearyddiaeth a Meddygaeth Prifysgol Abertawe yn darparu gweithgareddau hwyliog a rhyngweithiol bob dydd.

Bydd Adrannau Cyfrifiadureg Prifysgolion Abertawe, Aberystwyth a Bangor hefyd yno i hyrwyddo cynllun Technocamps ac yn ceisio annog ymwelwyr i reoli robotiaid cyfrifiadurol ymysg pethau eraill.

Bydd llu o gyrff allanol yn arddangos eu gwaith yn GwyddonLe gan gynnwys Techniquest, Yr Ardd Fotaneg, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Rheilffordd Llyn Llanbadarn, First Hydro, Mad Science a llawer mwy.

Bydd rhywbeth newydd sbon i wneud draw yn y babell bob dydd, gan gynnwys gweithgareddau crefft gwyddonol o bob math, arbrofion gyda melinau gwynt, cyfle i gyflwyno’r tywydd trwy gyfrwng sgrîn werdd ryngweithiol heb anghofio gweld llosgfynyddoedd yn ffrwydro.

Brynhawn Gwener, 8 Mehefin am 3 o’r gloch bydd ffilm unigryw, ‘GLIMPSE: Yr iâ sy’n diflannu o’r Ynys Las’ yn cael ei dangos ym mhabell GwyddonLe am y tro cyntaf trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r ffilm yn dilyn rhewlifegwyr o Brifysgol Abertawe ar eu taith wyddonol i ddarganfod pam fod iâ yr Ynys Las yn newid. 

Bydd Academi Hywel Teifi hefyd yn cynnal nifer o sesiynau ym mhabell GwyddonLe, gan gynnwys cwis ieithoedd cyffrous, perfformiad arbennig gan Arwel Lloyd heb anghofio darparu gwybodaeth am y cyfleoedd sy’n bodoli i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.

Dywedodd Richard B Davies, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe: ‘‘Rydym yn falch o fedru cynnal GwyddonLe unwaith eto gan adeiladu ar ei lwyddiant blaenorol. Bydd y babell hyd yn oed yn fwy eleni wnaiff roi cyfle i ni hyrwyddo gweithgareddau amrywiol y brifysgol. Bydd GwyddonLe yn rhoi llwyfan gwych i’n harbenigedd a’n hastudiaeth fel prifysgol ac yn fodd o annog plant a phobl ifanc o bob cwr o’r wlad i ymddiddori mewn gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn fwy pwysig, rwy’n mawr obeithio y bydd pawb yn cael hwyl!’’

Ychwanegodd yr Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe: ‘‘Rydym yn falch iawn bod ein partneriaeth â’r Urdd yn parhau trwy gyfrwng GwyddonLe ac yn hynod ddiolchgar i’r holl gyrff allanol am eu cydweithrediad eleni. Mae pabell GwyddonLe yn mynd o nerth i nerth ac yn ffordd wych o agor y drws i fyd gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Dymunwn y gorau i Eisteddfod yr Urdd eleni a gobeithio y bydd pawb yn mentro draw i GwyddonLe i gael blas o’r arlwy fydd ar gael.’’