Gwobrwyo Myfyrwyr Cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Derbyniodd rhai o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe ysgoloriaethau i astudio trwy’r Gymraeg mewn lansiad arbennig ar gampws y Brifysgol yn ddiweddar.

‌Lowri Morgan oedd â’r dasg o gyflwyno’r myfyrwyr â’u sieciau yn ystod agoriad gofod dysgu newydd sbon Cangen y Brifysgol o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Ysgoloriaethau

Cynigiwyd yr ysgoloriaethau am y tro cyntaf eleni ar gyfer y rhai hynny oedd yn dymuno astudio modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cawsant eu cynnig er mwyn annog myfyrwyr i ddewis modiwlau cyfrwng Cymraeg fel eu bod yn gallu manteisio ar eu dwyieithrwydd ar ôl graddio.

Roedd angen i’r ymgeiswyr esbonio eu rhesymau dros wneud cais a pham y dylent hwy dderbyn yr ysgoloriaeth.

Y myfyrwyr llwyddiannus oedd Carwyn Price, Iwan Llewelyn, Lydia Morgan, Alys-Meleri Rosser, Calum Morgan, Rebecca Davies, Kirsty Bird, Heulwen Beasley, Laura Morgan a Catrin Jenkins.

Yn ychwanegol, derbyniodd Hannah Eleri Price Jones fwrsariaeth i’w chynorthwyo gyda’i gradd Astudiaethau Plentyndod Cynnar.